JW subtitle extractor

Rafika Morris: Roeddwn i Moyn Brwydro yn Erbyn Anghyfiawnder

Video Other languages Share text Share link Show times

Pan o’n i’n tyfu lan yn y De, yn ystod adeg arwahaniad,
doedd pobl ddu a gwyn ddim yn cael cymysgu.
Ar ben hynny, oedd ’na arwyddion yn cadw ni yn y lle iawn.
O’n i’n ffaelu deall pam nad oedden ni’n gallu cymdeithasu.
Pum deg ceiniog.
Iawn Syr.
Diolch Syr.
Mam-gu, crwt yw e. Pam wyt ti’n dweud “Syr”?
Isht. Dw i moyn iti wybod dy le.
Nôl ar y tryc, dwedais i wrthi,
“Ti’n gwybod be? Wnai byth teimlo cywilydd!”
Oedd mam-gu yn gwybod o’n i’n caru’r Beibl achos o’n i wastad wedi darllen fe fel plentyn.
Ond o’n i’n ffaelu deall e.
O’n i’n arfer gweddïo, “Pam ’dyn ni mor wahanol?
Pam ’so ni’n gallu byw gyda’n gilydd?”
Wnes i gwrdd â grŵp ac o’n i rili moyn bod yn rhan ohono.
Oedden nhw’n ymwneud â gwleidyddiaeth.
Oedden nhw’n dweud, “’Dyn ni’n brwydro yn erbyn anghyfiawnder.”
A pan glywais i y gair “anghyfiawnder,” o’n i’n meddwl,
‘Ie, dw i moyn ymuno â hyn
—rhywbeth sy’n gallu newid ac uno pobl.’
Dyna oedd fy nod.
Wnaethon ni ddechrau protestio am greulondeb yr heddlu,
a dw i’n meddwl dyna oedd ffocws llawer o bobl.
O’n i’n hoffi rhai o’r pethau oedden nhw’n gwneud,
ond oedden nhw’n rhoi hyfforddiant milwrol inni bob dydd.
Dysgon ni sut i ddefnyddio arfau a phethau fel ’na.
Felly o’n i’n meddwl: ‘Dw i ddim moyn bod yn rhan o hyn.
Wnes i ddim ymuno i wneud hyn.’
Felly wnes i ddechrau troi yn ôl at Dduw
—at ddarllen y Beibl—
achos o’n i ddim yn gallu newid dim byd.
Y Beibl o’n i’n darllen oedd y King James.
Felly o’n i’n darllen, darllen, darllen, ond yn ffaelu deall e.
Aethon ni i Jamaica, a weles i’r Beibl ’ma, y New World Translation.
Dechreuais ddarllen e, ac oedd e’n gwneud cymaint o synnwyr!
O’n i’n gallu deall e, doedd ’na ddim “thee” a “thou.”
O’n i fel, ‘Waw! Dw i moyn un o rhain.’
Un diwrnod, wnaeth dwy fenyw gnocio ar y drws.
O’n i ddim yn gwybod taw Tystion Jehofa oedden nhw.
I gyd o’n i’n gweld oedd y Beibl ’na.
Dwedais i, “Ble gest ti’r Beibl ’na?”
A dwedon nhw, “Iawn, wnawn ni ddod ag un iti.”
Felly daethon nhw â Beibl imi,
ond o’n i ddim yn disgwyl yr astudiaeth Feiblaidd a ddaeth gyda fe.
Y tro cyntaf es i i Gynhadledd Tystion Jehofa, oedd ’na tua deg mil o bobl.
Pan es i mewn a gweld gymaint o wahanol wynebau a lliwiau,
oedd fel petai Jehofa yn dangos imi;
“Hei Rafika, ti’n cofio gofyn imi am bob math o bobl yn cymysgu a bod yn unedig?
Edrych, does gen i ddim rhagfarn; mae pawb yn cymysgu; ’dyn ni’n unedig.”
Wnaeth e wneud imi deimlo mor dda tu mewn.
Ie!
Dyma’r gyfundrefn dw i moyn bod yn rhan ohoni.
Dw i’n gweld pobl fel pobl, ti’n gweld,
a dw i’n gallu pregethu a bod yn ffrindiau gydag unrhyw un.
Nawr dw i’n gwybod beth mae’r Beibl wir yn ei ddysgu,
ac mae gen i fywyd hyfryd achos dw i’n gwybod taw dim ond Jehofa
a’i lywodraeth sy’n gallu dod â heddwch.
Fel mae Jehofa wedi uno ei bobl,
dw i moyn i bawb fod yn unedig a dod i ’nabod Jehofa,
fel dw i’n ei ’nabod e.
Wnaeth Jehofa ateb fy ngweddi.