JW subtitle extractor

Ydy Duw yn Derbyn Addoliad o Bob Math?

Video Other languages Share text Share link Show times

Mae llawer yn credu nad yw’n bwysig pa grefydd rydych chi’n ei dewis,
fod crefyddau fel gwahanol ffyrdd sy’n arwain i’r un cyfeiriad,
sef tuag at Dduw.
Ond ydy hynny’n wir?
Ydy Duw yn derbyn addoliad o bob math?
Mae’r Beibl ei hun yn disgrifio addoliad fel dwy ffordd:
Un yn llydan a llawer o bobl arni,
a’r llall yn gul a dim ond ychydig yn cael hyd iddi hi.
Y ffordd gul sy’n sefyll am addoliad sy’n plesio Duw,
gan arwain at fywyd a bendithion ganddo.
Sut gallwn ni wybod os ydyn ni ar y llwybr iawn?
Dychmygwch eich bod ar goll.
Dyma chi’n stopio pobl a gofyn am gyfarwyddiadau.
Mae un yn dweud am fynd i’r dde;
un arall yn dweud am droi i’r chwith.
O’r diwedd, mae rhywun gyda map yn dangos bod y ffordd gywir yn syth o’ch blaen.
Pwy fyddech chi’n ei gredu?
Mae’r Beibl yn debyg i’r map.
Y mae’n ein harwain at fendithion gan Dduw.
Pam felly mae cymaint o ddaliadau yn groes i’w gilydd?
Er enghraifft:
Mae llawer o grefyddau’n dysgu bod yr enaid yn byw am byth mewn byd anweledig,
tra bod eraill yn credu eu bod yn cael eu haileni mewn corff neu ffurf arall.
Dim ond un enghraifft yw hon o’r llu o ddaliadau sy’n groes i’w gilydd.
Ydy hi’n bosib bod pob crefydd yn dysgu’r gwirionedd?
Yn ôl y map,
dydy’r meirw ddim yn gwybod unrhyw beth.
Bydd Duw, yn ei dro, yn eu hadfer i fywyd
a bydd y rhai cyfiawn yn byw am byth ar y ddaear.
Os ydy’r Beibl yn glir ar y ddysgeidiaeth hon,
beth am faterion eraill, fel ein hymddygiad?
Gallwn berthyn i grefydd,
ond os bydd ein hymddygiad yn brifo Duw, gall ein haddoliad fod yn ddiwerth.
Mae’r Beibl yn dysgu y byddai llawer heddiw “yn gwbl afreolus
ac anwaraidd, ac yn casáu daioni.”
Sut bynnag, mae hefyd yn dweud y byddai addolwyr Duw yn heddychlon,
yn rheoli eu geiriau
a’u gweithredoedd.
Yn hytrach na dweud bod pob crefydd yn plesio Duw,
mae’r Beibl yn dweud mai dim ond un ffydd sydd.
Mae gwir addoliad yn agor y drws i gael perthynas dda â Duw
a bywyd tragwyddol.
Efallai i chi feddwl,
Cewch ateb i’r cwestiwn hwnnw ac eraill
yng ngwers 10 y llyfryn Newyddion Da Oddi Wrth Dduw!
Gallwch ei lawrlwytho oddi ar jw.org.
Bydd Tystion Jehofa yn hapus i astudio’r Beibl gyda chi.
Llenwch y cais ar lein,
a bydd un o Dystion Jehofa yn galw i drafod y Beibl ar amser a lle sy’n gyfleus i chi.