JW subtitle extractor

Ydy Duw yn Gwrando ar Bob Gweddi?

Video Other languages Share text Share link Show times

Mae’r Beibl yn disgrifio Duw fel yr un sy’n “gwrando gweddi.”
Mae’n gallu clywed eich gweddïau distaw hyd yn oed.
Ond sut mae hynny’n bosib?
Gan fod yr un sy’n gwrando gweddïau hefyd wedi creu popeth byw,
mae’n deall yn union sut mae’r ymennydd dynol yn gweithio.
Ef a’i ddyluniodd.
Felly, mae’n gallu darllen eich meddyliau a chlywed eich gweddïau distaw.
Mae gan Jehofa Dduw ddiddordeb ynoch chi,
ni waeth lle rydych chi’n byw.
Mae’n deall pa bynnag iaith rydych chi’n ei siarad.
Ond ydy Duw’n derbyn, neu’n gwrando ar bob gweddi?
Dychmygwch gyflogwr sy’n gweld un o’i weithwyr yn dwyn.
Mae’n cael gair â’r gweithiwr, ond ei ymateb cyntaf yw gwadu ei fod wedi dwyn,
wedyn mae’n ceisio cyfiawnhau’r peth.
Er bod y rheolwr yn clywed celwyddau ac esgusodion y gweithiwr, mae’n gwrthod gwrando arno.
Mewn ffordd debyg, dydy Duw ddim yn gwrando ar bob gweddi.
Er enghraifft, beth os yw gweddi rhywun yn hunanol?
Beth os yw dyn yn cam-drin ei wraig yn y cartref,
a’r diwrnod wedyn yn gofyn am fendith Duw?
Beth am filwyr sy’n gweddïo ar Dduw am help i ddinistrio gelyn,
tra bo’r gelyn yn gweddïo am yr un peth?
A fydd Duw yn derbyn gweddïau o’r fath?
Yn amlwg, dydy gweddïau sy’n groes i egwyddorion moesol Duw ddim yn ei blesio.
Ar y llaw arall, mae Duw wrth ei fodd yn derbyn gweddïau, hyd yn oed gan rai sydd wedi gwneud pethau drwg,
cyn belled â’u bod eisiau closio ato a cheisio ei ddoethineb a’i faddeuant.
Mae cael gwrandawiad gan Dduw yn bosib i’r rhai sy’n ceisio ei blesio.
Cewch atebion i’r cwestiynau hynny yng ngwers 12 y llyfryn Newyddion Da Oddi Wrth Dduw!
Gallwch lawrlwytho copi oddi ar jw.org.
Bydd Tystion Jehofa yn hapus i astudio’r Beibl gyda chi.
Llenwch y cais ar lein, a bydd un o Dystion Jehofa yn galw i drafod y Beibl ar amser a lle sy’n gyfleus i chi.