JW subtitle extractor

Wedi ei Ddylunio? Adar Sydd Ddim yn Colli eu Lliw

Video Other languages Share text Share link Show times

Mae lliw yn pylu ar ddefnydd sydd wedi’i wneud â llaw—er enghraifft, paent a dillad.
Ond nid dyna yw’r achos gyda llawer o rywogaethau o adar.
Mae eu plu wastad yn lliwgar ac yn llachar.
Beth yw’r gyfrinach?
Mae ymchwilwyr, sy’n edrych yn fanwl ar blu sgrechod y coed,
wedi darganfod bod eu lliwiau yn dod yn bennaf o fân newidiadau yn strwythur y bluen,
yn hytrach na’r pigment.
Mae amrywiaethau arwynebol yn gwasgaru’r golau sy’n cael ei adlewyrchu fel ei fod yn ymddangos fel amryw o liwiau.
A gan fod strwythur y bluen ddim yn newid gydag amser, dydy’r lliwiau byth yn pylu.
Mae’r darganfyddiad hyn yn agor y drws i bob math o bosibiliadau.
Mae Dr Andrew Parnell yn dweud:
Mae ymchwilwyr yn gweithio ar ddeunyddiau sy’n dynwared hyn.
Gall hyn arwain at baent sydd byth yn pylu,
ac efallai defnydd sy’n edrych yn newydd ac yn llachar,
ni waeth pa mor aml ’dyn ni’n ei olchi.
Beth rydych chi’n ei feddwl?
Ai esblygiad sy’n gyfrifol am liwiau plu yr adar?
Neu a gafodd eu dylunio?