JW subtitle extractor

Wedi ei Ddylunio? Sut Mae Morgrug yn Atal Tagfeydd?

Video Other languages Share text Share link Show times

Bob dydd, mae miliynau o forgrug yn teithio o’r nythfa
i’w meysydd hela heb greu tagfeydd difrifol.
Ond sut?
Wrth adael y nythfa mae morgrug heidiol yn dewis llwybr sy’n osgoi’r rhai sy’n dychwelyd gyda bwyd
ac yn methu symud mor hawdd.
Pan fydd morgrug deildorrol yn cwrdd â rhai sy’n cario llwythi,
maen nhw’n addasu drwy arafu, ymgasglu yn grwpiau, a symud fel uned.
Dywed ymchwilwyr bod hyn yn helpu morgrug i gyrraedd yn gynt oherwydd bod ganddyn nhw y flaenoriaeth,
ac maen nhw’n osgoi gwrthdaro.
Gall morgrug hefyd gyfathrebu drwy gyffwrdd teimlyddion,
ac mae hynny yn eu helpu i ddatrys problemau traffig mwy cymhleth.
Ar y llaw arall, mae pobl yn colli biliynau o oriau bob blwyddyn mewn tagfeydd.
Mae gwyddonwyr yn gobeithio copïo hyblygrwydd greddfol y morgrug
drwy ddyfeisio systemau sy’n sicrhau bod llif y traffig yn addasu i’r amgylchiadau ar y ffyrdd.
Beth ’dych chi’n feddwl?
Ai rhywbeth sydd wedi esblygu yw gallu’r morgrug i atal tagfeydd?
Neu, a gafodd ei ddylunio?