00:00:08
Mae pawb yn teimlo’n drist o bryd i’w gilydd.00:00:11
00:00:15
Wyt ti?00:00:16
00:00:19
Weithiau byddi di’n gwybod y rheswm;00:00:21
00:00:27
weithiau ddim.00:00:28
00:00:30
Ond hyd yn oed os nad ydy’r rheswm yn amlwg, beth elli di wneud pan fydd tristwch yn cael gafael ynot ti?00:00:37
00:00:39
Yn gyntaf, tria siarad â rhywun, efallai un o dy rieni neu ffrind agos.00:00:45
00:00:46
Pan oedd y dyn ffyddlon Job yn dioddef yn amser y Beibl, dywedodd:00:00:51
00:00:51
“Dw i’n mynd i gwyno, a dweud mor chwerw dw i’n teimlo.”00:00:54
00:00:55
Pan fydd pobl yn gwybod beth rwyt ti’n ddioddef, fe allan nhw estyn rhaff i dy dynnu di allan o’r twll.00:01:01
00:01:03
Dyma syniad arall: Beth am roi dy feddyliau ar bapur?00:01:07
00:01:11
Yn Diarhebion 2:11 mae’r Beibl yn dweud: “Bydd deall yn dy warchod.”00:01:18
00:01:22
Bydd ysgrifennu am dy deimladau yn dy helpu i’w deall.00:01:26
00:01:26
Unwaith bod nhw ar bapur, byddan nhw’n haws eu trin a’u deall, a bydd pwysau’r tristwch yn ysgafnu.00:01:33
00:01:37
Dyma drydydd awgrym: Os wyt ti’n gweddïo am dy bryderon,00:01:41
00:01:41
mae’r Beibl yn dweud y bydd yr “heddwch perffaith mae Duw’n ei roi . . . yn gwarchod eich calonnau a’ch meddyliau.”00:01:48
00:01:49
Felly, paid ag anghofio gweddïo.00:01:51
00:01:52
Yn olaf, ond yn sicr nid yn lleiaf, gall darllen y Beibl fod yn help—yn enwedig llyfr y Salmau.00:01:59
00:01:59
Mae llenwi dy feddwl â phethau positif o’r Beibl yn gallu cael effaith bositif ar dy deimladau.00:02:05
00:02:06
Ond beth os bydd y tristwch yn gwrthod codi pac a mynd?00:02:10
00:02:11
Beth os wyt ti wedi colli diddordeb yn y pethau roeddet ti’n arfer mwynhau?00:02:15
00:02:16
Beth os wyt ti wedi colli awydd bwyd,00:02:19
00:02:20
yn cael trafferth cysgu,00:02:22
00:02:23
ac yn teimlo’n dda i ddim?00:02:25
00:02:27
Os ydy’r symptomau’n parhau, beth am siarad â dy rieni am fynd i weld y meddyg?00:02:33
00:02:33
Bydd y meddyg yn gwybod a oes rheswm meddygol dros dy dristwch, fel er enghraifft, iselder clinigol.00:02:40
00:02:41
Os wyt ti’n dioddef o iselder clinigol, does dim angen bod â chywilydd.00:02:46
00:02:46
Gyda’r driniaeth gywir, mae llawer o bobl wedi dechrau teimlo’n well—weithiau’n well nag y maen nhw wedi teimlo ers talwm.00:02:54
00:02:56
Felly beth bynnag ydy’r rheswm dros dy dristwch,00:02:59
00:02:59
gyda chymorth ac ymdrech, gelli di ddod allan o’r twll.00:03:04
00:03:08
Fydd y teimladau ddim yn para am byth, cofia.00:03:11
00:03:12
Byddan nhw’n mynd heibio.00:03:13
00:03:13
Ac os wyt ti’n dysgu delio â nhw nawr, byddi di’n gwybod yn well sut i’w trin pan wyt ti’n oedolyn.00:03:20
00:03:20
Drwy gymryd un dydd ar y tro,00:03:22
00:03:24
a dibynnu ar gefnogaeth dy rieni a ffrindiau da,00:03:27
00:03:28
gelli di fynd o galon drom i galon lon.00:03:32
O Galon Drom i Galon Lon
-
O Galon Drom i Galon Lon
Mae pawb yn teimlo’n drist o bryd i’w gilydd.
Wyt ti?
Weithiau byddi di’n gwybod y rheswm;
weithiau ddim.
Ond hyd yn oed os nad ydy’r rheswm yn amlwg, beth elli di wneud pan fydd tristwch yn cael gafael ynot ti?
Yn gyntaf, tria siarad â rhywun, efallai un o dy rieni neu ffrind agos.
Pan oedd y dyn ffyddlon Job yn dioddef yn amser y Beibl, dywedodd:
“Dw i’n mynd i gwyno, a dweud mor chwerw dw i’n teimlo.”
Pan fydd pobl yn gwybod beth rwyt ti’n ddioddef, fe allan nhw estyn rhaff i dy dynnu di allan o’r twll.
Dyma syniad arall: Beth am roi dy feddyliau ar bapur?
Yn Diarhebion 2:11 mae’r Beibl yn dweud: “Bydd deall yn dy warchod.”
Bydd ysgrifennu am dy deimladau yn dy helpu i’w deall.
Unwaith bod nhw ar bapur, byddan nhw’n haws eu trin a’u deall, a bydd pwysau’r tristwch yn ysgafnu.
Dyma drydydd awgrym: Os wyt ti’n gweddïo am dy bryderon,
mae’r Beibl yn dweud y bydd yr “heddwch perffaith mae Duw’n ei roi . . . yn gwarchod eich calonnau a’ch meddyliau.”
Felly, paid ag anghofio gweddïo.
Yn olaf, ond yn sicr nid yn lleiaf, gall darllen y Beibl fod yn help—yn enwedig llyfr y Salmau.
Mae llenwi dy feddwl â phethau positif o’r Beibl yn gallu cael effaith bositif ar dy deimladau.
Ond beth os bydd y tristwch yn gwrthod codi pac a mynd?
Beth os wyt ti wedi colli diddordeb yn y pethau roeddet ti’n arfer mwynhau?
Beth os wyt ti wedi colli awydd bwyd,
yn cael trafferth cysgu,
ac yn teimlo’n dda i ddim?
Os ydy’r symptomau’n parhau, beth am siarad â dy rieni am fynd i weld y meddyg?
Bydd y meddyg yn gwybod a oes rheswm meddygol dros dy dristwch, fel er enghraifft, iselder clinigol.
Os wyt ti’n dioddef o iselder clinigol, does dim angen bod â chywilydd.
Gyda’r driniaeth gywir, mae llawer o bobl wedi dechrau teimlo’n well—weithiau’n well nag y maen nhw wedi teimlo ers talwm.
Felly beth bynnag ydy’r rheswm dros dy dristwch,
gyda chymorth ac ymdrech, gelli di ddod allan o’r twll.
Fydd y teimladau ddim yn para am byth, cofia.
Byddan nhw’n mynd heibio.
Ac os wyt ti’n dysgu delio â nhw nawr, byddi di’n gwybod yn well sut i’w trin pan wyt ti’n oedolyn.
Drwy gymryd un dydd ar y tro,
a dibynnu ar gefnogaeth dy rieni a ffrindiau da,
gelli di fynd o galon drom i galon lon.
-