JW subtitle extractor

Bydd Jehofa Dduw yn Dy Helpu Di

Video Other languages Share text Share link Show times

Pryd mae dy dro di, Dad?
Wnaethon ni gwrdd â Thystion Jehofa ychydig o flynyddoedd yn ôl.
Rhian oedd y cyntaf i gychwyn astudio.
A ninnau’n fuan wedyn.
Am y tro cyntaf, oedden ni’n dysgu beth mae’r Beibl yn ei wir ddysgu.
Ar ôl ychydig oedden ni’n rhannu’r gwirionedd ag eraill.
Wel, y rhan fwyaf ohonon ni.
Hwn oedd y gwirionedd, ond do’n i ddim yn gwybod a allwn i wneud popeth mae Jehofa’n ei ofyn.
[cnocio drws]
Cer o ’ma!
Beth os wna’ i siomi pawb?
Beth os wna’ i siomi Jehofa?
...yn y car, ocê.
Sori, wnei di esgusodi fi am funud?
-Iawn, dim problem.
-Ocê, Iawn.
Sylwodd Ben, henuriad caredig, fy mod i’n ei chael hi’n anodd.
Oedd e’n awyddus i helpu.
Gofynnodd, “Beth wnaeth dy ddenu di at Jehofa yn y lle cyntaf?”
O’n i’n hoffi dysgu bod Jehofa ddim yn llawdrwm nac yn gofyn am ormod, ond mae’n Dad cariadus.
Cytunodd Ben a dweud, “Pan ’dyn ni’n gwneud ein gorau i wasanaethu Jehofa, mae e’n gwneud y gweddill.”
Esboniodd fod Jehofa yn deall bod terfyn ar ein gallu a dyw e ddim yn disgwyl perffeithrwydd.
Ac mae e wastad yno i helpu achos mae e moyn inni lwyddo.
Yna darllenodd Eseia 41:10:
“Paid bod ag ofn, achos dw i gyda ti.
Paid dychryn—fi ydy dy Dduw di!
Dw i’n dy nerthu di ac yn dy helpu di,
[Help!]
dw i’n dy gynnal di ac yn dy achub di hefo fy llaw dde.”
Dw i ddim angen bod yn berffaith i wasanaethu Jehofa.
Dw i jest angen ei garu ac ymddiried ynddo.
A bydd e’n gwneud y gweddill.