JW subtitle extractor

Cyflwyniad i Genesis

Video Other languages Share text Share link Show times

Cyflwyniad i lyfr Genesis.
Cafodd Genesis ei gwblhau gan Moses
yn Anialwch Sinai ym 1513 COG.
Cafodd Moses ei eni ym 1593 COG,
ac roedd yn broffwyd,
arweinydd,
barnwr,
hanesydd,
a chanolwr.
Ysgrifennodd bum llyfr cyntaf y Beibl,
a elwir y Pumllyfr, ynghyd â Job,
Salm 90 ac efallai Salm 91.
Mae’r enw Genesis yn golygu “tarddiad”
neu “enedigaeth.”
Mae’r llyfr yn disgrifio tarddiad y bydysawd,
a sut gwnaeth Duw baratoi’r ddaear i bobl fyw arni.
Mae hefyd yn disgrifio tarddiad yr Israeliaid
a sut tyfodd y genedl yn yr Aifft
hyd at farwolaeth Joseff ym 1657 COG.
Mae gan Genesis 50 o benodau.
Mae penodau 1 a 2 yn dangos sut gwnaeth Duw,
dros chwe chyfnod a elwir dyddiau,
baratoi’r ddaear ar gyfer dynolryw
ac yna creu’r dyn a’r ddynes gyntaf,
Adda ac Efa.
Gorchmynnodd Duw iddyn nhw lenwi’r ddaear
a gofalu amdani,
ac roedd ganddyn nhw’r cyfle i fyw am byth.
Ym mhennod 3, mae Efa yn cael ei themtio
gan sarff i anufuddhau i Dduw.
Mae Adda hefyd yn anufudd i Dduw,
ac yn dod â phechod a marwolaeth i holl ddynolryw.
Ym mhennod 6,
mae angylion drwg yn cymryd ffurf ddynol,
yn priodi menywod,
ac yn cael plant annaturiol
sy’n cael eu galw’n Neffilim.
Mae pobl ddrwg ym mhobman,
ac mae Duw yn penderfynu
‘cael gwared â’r ddynoliaeth’
gan ddefnyddio dilyw mawr.
Ond mae Noa wedi plesio Jehofa,
sy’n dweud wrtho am adeiladu arch
i achub ei deulu
a gwahanol fathau o anifeiliaid.
Ym mhenodau 10 ac 11,
’dyn ni’n darllen bod pobl ar ôl y Dilyw wedi
dechrau adeiladu dinas a thŵr enfawr ynddi,
roedd hyn yn mynd yn groes i bwrpas Duw
a oedd i bobl lenwi’r ddaear.
Ond gwnaeth Duw ddrysu eu hiaith nhw,
a’u gwasgaru nhw.
Mae penodau 11 i 25
yn canolbwyntio ar Abraham
—dyn â ffydd gref.
Ym mhennod 12, mae Jehofa’n dweud wrth Abraham
—a oedd yn cael ei alw’n Abram—
am fynd i mewn i’r wlad lle byddai ei ddisgynyddion
yn troi’n genedl fawr, a bod holl bobloedd y ddaear
am gael eu bendithio drwyddo ef.
Ym mhennod 15 mae Jehofa’n dweud wrth Abram
am iddo edrych i fyny i’r awyr a chyfri’r sêr.
Wedyn mae’n addo:
“Fel yna fydd dy ddisgynyddion di.”
Oeddet ti’n gwybod?
Mae Genesis yn gosod thema’r Beibl cyfan,
sef cyfiawnhau hawl Jehofa i reoli,
a chyflawni ei bwrpas ar gyfer y ddaear a dynolryw,
drwy gyfrwng y Deyrnas a fydd yn cael ei rheoli
gan had addawedig.
Cawn gipolwg cyntaf ar yr had
a beth byddai’n ei wneud yn Genesis 3:15.
Mae llyfr Datguddiad yn dangos sut mae’r
had yn sathru ar yr “hen sarff,” Satan,
neu yn ei ddinistrio, ac yn dod â’r bendithion
sydd wedi eu haddo i bawb sy’n ufudd.
Ym mhennod 19,
mae Duw yn dinistrio Sodom, Gomorra,
a’r dinasoedd o’u cwmpas
oherwydd eu hanfoesoldeb rhywiol ffiaidd.
Ym mhennod 22,
mae Jehofa yn dweud wrth Abraham
am offrymu ei fab Isaac.
Ond wrth i Abraham geisio gwneud hynny,
mae Jehofa yn ei stopio
ac yn ailadrodd ei addewidion
ynglŷn â disgynyddion Abraham.
Mae penodau 24 i 50
yn canolbwyntio, ar y cyfan, ar Isaac;
ei efeilliaid, Jacob ac Esau;
a mab Jacob Joseff.
Mae Isaac yn bendithio Jacob,
sydd wedyn yn mynd yn bell i ffwrdd i Padan-aram.
Yno, drwy Lea, Rachel, a’u dwy forwyn,
mae Jacob yn cael sawl plentyn,
gan gynnwys 11 o feibion.
Wedyn mae Jacob yn dychwelyd i Ganaan,
ble mae Duw yn newid ei enw i Israel,
a ble mae Rachel yn rhoi genedigaeth
i ddeuddegfed fab Jacob.
Mae penodau 37 i 41 yn sôn am fab Jacob,
Joseff, yn cael ei werthu gan ei frodyr
pan oedd yn 17 oed
ac yn dod yn was i Potiffar,
un o swyddogion y Pharo.
Yn nes ymlaen mae gwraig Potiffar
yn ceisio denu Joseff, ond yn methu.
Mae’n ei gyhuddo o geisio ei threisio hi,
ac mae’n cael ei garcharu.
Pan mae Joseff yn 30 mlwydd oed,
ac yn dal yn y carchar,
mae’n dehongli breuddwydion y Pharo
gyda help ysbryd Duw.
O ganlyniad, mae Joseff yn cael ei ryddhau
a’i benodi yn brif weinidog ar yr Aifft.
Ym mhenodau 42 i 47,
mae teulu Joseff yn dod yn ôl at ei gilydd
ac yn setlo yn yr Aifft fel estroniaid.
Mae pennod 49 yn cynnwys y broffwydoliaeth
wnaeth Jacob am ei feibion pan oedd ar fin marw.
Bydd yr had addawedig yn dod trwy linach Jwda,
“bydd pobl y gwledydd yn ufuddhau”
i’r had hwnnw a elwir Seilo.
Wrth iti ddarllen llyfr Genesis,
sylwa ar sut mae’n esbonio
pam mae ’na gymaint o ddioddefaint,
ar sut a pham cafodd y patriarchiaid
ffafr a bendith Duw,
ac ar sut bydd addewidion Jehofa i’r
dynion ffyddlon hynny yn cael eu cyflawni gan Iesu Grist,
Brenin Teyrnas Dduw.