JW subtitle extractor

Cyflwyniad i Rhufeiniaid

Video Other languages Share text Share link Show times

Cyflwyniad i lyfr y Rhufeiniaid.
Rhufeiniaid yw’r cyntaf o ddau ddeg un llythyr yn yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol.
Ysgrifennodd yr apostol Paul un deg pedwar o’r llythyrau hyn, gan gynnwys Rhufeiniaid.
Mae’n debyg mai ym mhum deg dau OG y cychwynnodd Paul ar ei drydedd daith genhadol.
Tra oedd yng Nghorinth, tua phum deg chwech OG,
ysgrifennodd Paul at y Cristnogion yn Rhufain, dinas nad oedd ef eto wedi ymweld â hi.
Mae’r llythyr at y Rhufeiniaid yn cynnwys un deg chwech o benodau.
Ym mhennod un,
mae Paul yn mynegi ei ddymuniad i ymweld â Christnogion Rhufain
er mwyn iddo eu hannog ac iddo yntau hefyd gael ei annog.
Mae’n esbonio hefyd nad oes esgus am ymddygiad annuwiol y byd
oherwydd bod rhinweddau anweledig Duw i’w gweld yn glir o’i weithiau creadigol.
Oeddet ti’n gwybod?
Defnyddiwyd Tertiws gan Paul i ysgrifennu’r llythyr.
Efallai fod y chwaer ffyddlon Phibi wedi mynd â’r llythyr i Rufain, neu ei bod hi wedi mynd gyda’r sawl a wnaeth.
Ym mhennod dau, mae Paul yn dangos nad ydy Duw yn dangos ffafriaeth.
Caiff Iddewon a Chenedl-ddynion eu barnu yn ôl yr un safonau.
Ym mhenodau tri a phedwar,
darllenwn am Jehofa yn datgan bod Iddewon a Groegwyr fel ei gilydd yn gyfiawn trwy ffydd,
ac mae Paul yn defnyddio esiampl Abraham i ddarlunio’r pwynt.
Roedd Abraham yn byw cyn i’r Gyfraith gael ei rhoi i Moses
a chyn i Iesu aberthu ei fywyd.
Eto i gyd, ystyriodd Duw fod Abraham yn gyfiawn oherwydd ei ffydd eithriadol.
Ym mhenodau pump a chwech, mae Paul yn esbonio bod Adda wedi pechu yn erbyn Duw,
ac felly mae bodau dynol wedi etifeddu pechod a marwolaeth.
Dim ond trwy ffydd yn Iesu a’i farwolaeth aberthol y mae rhyddhad yn bosib.
Ym mhenodau saith ac wyth, mae Paul yn trafod sut roedd Cyfraith Moses yn datgelu ystyr pechod
a pham nad ydy Cristnogion o dan y Gyfraith honno.
Ym mhenodau naw a deg, esbonia Paul fod y rhai sy’n rhoi eu ffydd ar waith,
ni waeth befo’u cenedl, yn gallu dod yn blant ysbrydol Duw.
Ym mhennod un ar ddeg, mae Paul yn defnyddio olewydden fel eglureb.
Mae’n cymharu Iddewon a wrthododd y Meseia â changhennau sydd wedi eu torri i ffwrdd.
Mae canghennau olewydden wyllt, sy’n cynrychioli Cristnogion y Cenhedloedd, yn cael eu himpio yn eu lle.
Er mwyn dod yn rhan o’r goeden, mae’n rhaid i bawb aros yn ostyngedig a rhoi ffydd yn Iesu.
Ym mhenodau un deg dau ac un deg tri, mae Paul yn annog Cristnogion i fod yn heddychlon tuag at bawb,
i garu ei gilydd, ac i barchu awdurdod y llywodraeth.
Ym mhenodau un deg pedwar ac un deg pump,
cynghorir Cristnogion i gefnogi’r rhai gwan ac i beidio â barnu ei gilydd.
Ym mhennod un deg chwech, mae Paul yn cloi gyda geiriau o anogaeth a chyfarchion personol cynnes,
gan sôn am ddau ddeg chwech o unigolion wrth eu henw.
Wrth iti ddarllen y llythyr ysbrydoledig hwn,
sylwa ar sut mae Duw yn ddiduedd yn y ffordd mae’n delio â phobl,
ar sut dylai Cristnogion fod yn heddychlon tuag at eraill,
ac ar sut y daw rhyddid o bechod a marwolaeth dim ond drwy roi ein ffydd yn Iesu, Brenin Teyrnas Dduw.