JW subtitle extractor

Cyflwyniad i 1 Corinthiaid

Video Other languages Share text Share link Show times

Cyflwyniad i Cyntaf Corinthiaid.
Ysgrifennodd yr apostol Paul y llythyr hwn at y Cristnogion yn ninas gosmopolitanaidd, brysur Corinth.
Arhosodd Paul yng Nghorinth yn ystod ei ail daith genhadol gan helpu i sefydlu cynulleidfa yno.
Yn ystod ei drydedd daith genhadol,
tra oedd yn Effesus, derbyniodd Paul lythyr gan gynulleidfa Corinth a chlywodd adroddiadau a oedd yn destun pryder.
Tua phum deg pump OG oedd hi pan ysgrifennodd Paul at y Corinthiaid i ddelio â’r materion hyn.
Mae gan Cyntaf Corinthiaid un deg chwech o benodau.
Ym mhenodau un i bedwar,
mae Paul yn cywiro ffordd o feddwl y Corinthiaid drwy eu hannog i fod yn unedig.
Yn ôl rhesymu Paul, does dim ots pwy sy’n plannu neu’n dyfrio oherwydd Duw sy’n gwneud i bethau dyfu.
Ym mhenodau pump a chwech, mae Paul yn trafod mater difrifol, sef anfoesoldeb rhywiol.
Mae ’na ddrwgweithredwr diedifar yn eu plith.
Rhaid i’r dyn gael ei ddiarddel i amddiffyn y gynulleidfa.
Anogir y gynulleidfa i ffoi rhag anfoesoldeb rhywiol.
Mae pennod saith yn rhoi cyngor cytbwys ynglŷn ag aros yn sengl neu briodi.
Ym mhenodau wyth i ddeg, dysgwn y dylen ni ar brydiau ymgadw rhag gwneud yr hyn y mae gennyn ni’r hawl i’w wneud
er mwyn peidio â baglu eraill neu rwystro pobl rhag derbyn y newyddion da.
Oeddet ti’n gwybod?
Cynhelid y Gemau Isthmiaidd bob yn ail flwyddyn ger Corinth.
Gan dynnu ar sefyllfa gyfarwydd,
defnyddiodd Paul yr eglureb o redeg ras i helpu cynulleidfa Corinth i weld bod angen ffyddlondeb a dyfalbarhad.
Ym mhennod unarddeg, mae Paul yn rhoi cyfarwyddyd ynglŷn â Swper yr Arglwydd.
Ym mhennod deuddeg, mae Paul yn cymharu’r gynulleidfa â’r corff dynol i ddangos bod pob aelod yn bwysig.
Mae Jehofa’n hapus pan weithiwn gyda’n gilydd mewn undod.
Mae pennod un deg tri yn dangos sut mae cariad yn ymddwyn a sut nad yw’n ymddwyn.
Yn ôl pennod un deg pedwar, dylai’r cyfarfodydd fod yn drefnus ac yn heddychlon.
Ym mhennod un deg pump, gwelwn fod gobaith yr atgyfodiad yn sicr.
Cyfeiriodd Paul at broffwydoliaethau cyflawnedig ynghyd ag adroddiadau llygad-dystion am atgyfodiad Iesu.
Mae’n esbonio bod aberth pridwerthol Crist yn trechu pechod a marwolaeth.
Ym mhennod un deg chwech, ceir cyfarwyddyd ynglŷn â chasglu arian ar gyfer Cristnogion tlawd yn Jerwsalem.
Wrth ddarllen Cyntaf Corinthiaid, sylwa ar ba mor unedig y dylai gwir Gristnogion fod,
ar sut dylai’r gynulleidfa gefnogi safonau moesol Jehofa,
ac ar sut mae credu yn atgyfodiad Iesu yn hanfodol er mwyn derbyn bendithion y Deyrnas.