JW subtitle extractor

Cyflwyniad i 2 Corinthiaid

Video Other languages Share text Share link Show times

Cyflwyniad i Ail Corinthiaid.
Ysgrifennodd Paul ei ail lythyr ysbrydoledig at y Corinthiaid
rai misoedd ar ôl i’r gynulleidfa dderbyn ei lythyr cyntaf.
Cafodd Titus ei anfon i Gorinth er mwyn helpu i gasglu arian i’r brodyr yn Jwdea,
ac efallai hefyd er mwyn gweld sut roedd y Corinthiaid wedi ymateb i lythyr cyntaf Paul.
Pan adawodd Titus Corinth, aeth i gyfarfod â Paul.
Roedd Paul mor falch o glywed adroddiad da gan Titus,
ysgrifennodd unwaith eto at y Corinthiaid.
Mae gan Ail Corinthiaid 13 o benodau.
Ym mhennod 1, mae Paul yn cyfeirio at Jehofa fel y “Tad sy’n tosturio a’r Duw sy’n cysuro.
Mae’n ein cysuro ni yng nghanol ein holl drafferthion.”
Ym mhennod 2, mae Paul yn atgoffa’r gynulleidfa o’i gariad tuag atyn nhw,
gan gofio’r cyngor cryf a roddodd iddyn nhw yn ei lythyr ysbrydoledig cyntaf.
Erbyn hyn, mae’r drwgweithredwr a gafodd ei ddiarddel o’r gynulleidfa
wedi newid ei ffyrdd a dylai cael maddeuant a chroeso.
Ym mhennod 3, mae Paul yn dweud mai Duw sy’n gwneud pobl yn gymwys i fod yn weision.
Mae pennod 4 yn disgrifio gweinidogaeth y cyfamod newydd fel “trysor” mewn “llestri pridd.”
Er ein bod ni’n llestri pridd amherffaith,
gall y neges rydyn ni’n ei phregethu arwain at fywyd tragwyddol i ni ac i’r rhai sydd yn gwrando arnon ni.
Ym mhennod 5, dywed Paul:
“Cariad y Meseia sy’n ein gyrru ni’n ein blaenau.”
Ni allwn dderbyn cariad arbennig Crist heb gael ein cymell i fyw drosto.
Mae ei gariad yn ein hysgogi i efelychu ei esiampl.
Mae pennod 6 yn esbonio
y byddai gwir Gristion sy’n cymdeithasu â rhywun sydd ddim yn Gristion
yn creu iau amhriodol.
Byddai hynny ond yn niweidio ffydd y Cristion.
Mae pennod 7 yn cyferbynnu tristwch duwiol â thristwch y byd.
Mae rhywun yn teimlo tristwch duwiol
pan fydd yn ystyried drwgweithredu yn bechod yn erbyn Duw.
Mae hyn yn ysgogi’r person i geisio maddeuant ac i gefnu ar ei ffyrdd anghywir.
Mae tristwch y byd yn wahanol.
Yn yr achos hwn, mae rhywun yn drist oherwydd bod ei ddrygioni wedi cael ei ddatgelu,
ond nid yw’n ceisio maddeuant gan Jehofa.
Ym mhenodau 8 a 9,
mae Paul yn annog y Corinthiaid i wneud y weinidogaeth o roi cymorth
er mwyn helpu’r brodyr mewn angen yn Jwdea.
Oeddet ti’n gwybod?
Defnyddiodd Paul wahanol ffurfiau ar y gair Groeg “gweinidogaeth”
i ddisgrifio’r gwaith dysgu a phregethu, yn ogystal â’r gwaith o roi cymorth.
Felly, mae gwaith cymorth yn rhan o wasanaeth cysegredig y Cristion.
Ym mhenodau 10 i 13,
mae Paul yn esbonio i’r Corinthiaid
pam mae dysgeidiaethau apostolion ffals yn anghywir.
Mae Paul yn atgoffa’r gynulleidfa
bod gwirionedd ysgrythurol yn gallu chwalu’r dysgeidiaethau,
yr ymarferion, a’r agweddau
sy’n adlewyrchu doethineb dynol amherffaith.
Wrth iti ddarllen Ail Corinthiaid,
sylwa ar sut mae Jehofa, y Duw sy’n cysuro, yn atgyfnerthu ac yn cynnal ei weision,
ar sut mae gwir edifeirwch yn arwain at gyfeillgarwch â Duw,
ac ar sut gall hyd yn oed bodau dynol bregus gyhoeddi newyddion da Teyrnas Dduw.