00:00:02
Cyflwyniad i Galatiaid.00:00:04
00:00:06
Ysgrifennodd Paul y llythyr hwn yn ystod neu ar ôl ei ail daith genhadol, un ai o Gorinth neu o Antiochia yn Syria.00:00:15
00:00:16
Er ei fod fel arfer yn defnyddio ysgrifennydd,00:00:19
00:00:19
Paul ei hun ysgrifennodd y llythyr at y Galatiaid.00:00:22
00:00:24
Ysgrifennwyd Galatiaid oddeutu 50 i 52 OG.00:00:29
00:00:31
Oeddet ti’n gwybod?00:00:33
00:00:33
Roedd Galatia yn dalaith Rufeinig yng nghanol yr ardal sy’n cael ei galw heddiw yn Asia Leiaf.00:00:39
00:00:41
Ysgrifennodd Paul at y cynulleidfaoedd yn Galatia,00:00:44
00:00:44
gan gynnwys efallai y rhai yn Antiochia yn Pisidia, Iconium, Lystra, a Derbe.00:00:50
00:00:53
Roedd athrawon ffals yn Galatia yn dysgu ei bod hi’n angenrheidiol i Gristnogion ddilyn Cyfraith Moses.00:00:59
00:00:59
Felly, helpodd Paul y Galatiaid i ddeall nad oedd hyn yn wir.00:01:03
00:01:04
Mae’r llythyr at y Galatiaid yn cynnwys chwe phennod.00:01:08
00:01:08
Ym mhennod 1, mae Paul yn adrodd ei brofiad ei hun o droi o fod yn Iddew i fod yn Gristion.00:01:14
00:01:15
Mae Paul yn atgoffa’r Galatiaid y dylen nhw ddilyn yr hyn mae wedi ei ddysgu iddyn nhw00:01:20
00:01:20
oherwydd mae wedi dod drwy ddatguddiad oddi wrth Iesu Grist.00:01:23
00:01:24
Ym mhenodau 2 a 3,00:01:26
00:01:26
mae Paul yn rhesymu nad ydy ‘cadw holl fanion y Gyfraith’ yn gwneud rhywun yn gyfiawn.00:01:31
00:01:32
Mae’n dweud bod y Gyfraith wedi “gwarchod” y bobl a’u harwain at y Crist.00:01:36
00:01:36
Ffydd yn Iesu sy’n gwneud rhywun yn gyfiawn.00:01:39
00:01:41
Mae Paul yn esbonio pwy ydy plant ysbrydol Abraham, sef Crist a chyd-etifeddion Crist.00:01:47
00:01:48
Ond, mae Paul yn rhybuddio ym mhenodau 4 i 600:01:52
00:01:52
fod y Galatiaid mewn peryg o gael eu caethiwo gan ddysgeidiaethau dynol.00:01:56
00:01:58
Ym mhennod 4, mae Paul yn cyflwyno drama symbolaidd,00:02:02
00:02:02
gan ddefnyddio esiampl Hagar a Sara a’u plant, Ismael ac Isaac.00:02:07
00:02:08
Mae Hagar ac Ismael yn cyfateb i Jerwsalem a’i phlant,00:02:12
00:02:12
neu ddinasyddion, sydd mewn caethiwed.00:02:14
00:02:16
Mae Sara ac Isaac yn cyfateb i “Jerwsalem ysbrydol,”00:02:20
00:02:20
y rhan nefol o gyfundrefn Jehofa,00:02:23
00:02:23
a’i phlant, meibion ysbryd-eneiniog Duw sy’n rhydd.00:02:27
00:02:32
Ond mae Paul yn rhybuddio,00:02:33
00:02:33
na ddylai’r rhyddid hwnnw gael ei ddefnyddio fel esgus dros wneud pethau drwg.00:02:38
00:02:40
Mae’n cyferbynnu gweithredoedd y cnawd â ffrwyth ysbryd Duw,00:02:44
00:02:44
ac mae’n dysgu ein bod ni’n medi yr hyn rydyn ni’n ei hau.00:02:47
00:02:51
Wrth iti ddarllen y llythyr at y Galatiaid,00:02:54
00:02:54
sylwa ar sut gall Cristnogion gael eu galw’n gyfiawn drwy eu ffydd,00:02:58
00:02:58
ar sut mae’r rhai sy’n dangos ffrwyth ysbryd Duw yn medi bendithion,00:03:03
00:03:03
ac ar sut mae Iesu Grist a chyd-etifeddion ei Deyrnas dragwyddol00:03:08
00:03:08
yn cael eu henwi fel plant ysbrydol i Abraham.00:03:11
Cyflwyniad i Galatiaid
-
Cyflwyniad i Galatiaid
Cyflwyniad i Galatiaid.
Ysgrifennodd Paul y llythyr hwn yn ystod neu ar ôl ei ail daith genhadol, un ai o Gorinth neu o Antiochia yn Syria.
Er ei fod fel arfer yn defnyddio ysgrifennydd,
Paul ei hun ysgrifennodd y llythyr at y Galatiaid.
Ysgrifennwyd Galatiaid oddeutu 50 i 52 OG.
Oeddet ti’n gwybod?
Roedd Galatia yn dalaith Rufeinig yng nghanol yr ardal sy’n cael ei galw heddiw yn Asia Leiaf.
Ysgrifennodd Paul at y cynulleidfaoedd yn Galatia,
gan gynnwys efallai y rhai yn Antiochia yn Pisidia, Iconium, Lystra, a Derbe.
Roedd athrawon ffals yn Galatia yn dysgu ei bod hi’n angenrheidiol i Gristnogion ddilyn Cyfraith Moses.
Felly, helpodd Paul y Galatiaid i ddeall nad oedd hyn yn wir.
Mae’r llythyr at y Galatiaid yn cynnwys chwe phennod.
Ym mhennod 1, mae Paul yn adrodd ei brofiad ei hun o droi o fod yn Iddew i fod yn Gristion.
Mae Paul yn atgoffa’r Galatiaid y dylen nhw ddilyn yr hyn mae wedi ei ddysgu iddyn nhw
oherwydd mae wedi dod drwy ddatguddiad oddi wrth Iesu Grist.
Ym mhenodau 2 a 3,
mae Paul yn rhesymu nad ydy ‘cadw holl fanion y Gyfraith’ yn gwneud rhywun yn gyfiawn.
Mae’n dweud bod y Gyfraith wedi “gwarchod” y bobl a’u harwain at y Crist.
Ffydd yn Iesu sy’n gwneud rhywun yn gyfiawn.
Mae Paul yn esbonio pwy ydy plant ysbrydol Abraham, sef Crist a chyd-etifeddion Crist.
Ond, mae Paul yn rhybuddio ym mhenodau 4 i 6
fod y Galatiaid mewn peryg o gael eu caethiwo gan ddysgeidiaethau dynol.
Ym mhennod 4, mae Paul yn cyflwyno drama symbolaidd,
gan ddefnyddio esiampl Hagar a Sara a’u plant, Ismael ac Isaac.
Mae Hagar ac Ismael yn cyfateb i Jerwsalem a’i phlant,
neu ddinasyddion, sydd mewn caethiwed.
Mae Sara ac Isaac yn cyfateb i “Jerwsalem ysbrydol,”
y rhan nefol o gyfundrefn Jehofa,
a’i phlant, meibion ysbryd-eneiniog Duw sy’n rhydd.
Ond mae Paul yn rhybuddio,
na ddylai’r rhyddid hwnnw gael ei ddefnyddio fel esgus dros wneud pethau drwg.
Mae’n cyferbynnu gweithredoedd y cnawd â ffrwyth ysbryd Duw,
ac mae’n dysgu ein bod ni’n medi yr hyn rydyn ni’n ei hau.
Wrth iti ddarllen y llythyr at y Galatiaid,
sylwa ar sut gall Cristnogion gael eu galw’n gyfiawn drwy eu ffydd,
ar sut mae’r rhai sy’n dangos ffrwyth ysbryd Duw yn medi bendithion,
ac ar sut mae Iesu Grist a chyd-etifeddion ei Deyrnas dragwyddol
yn cael eu henwi fel plant ysbrydol i Abraham.
-