00:00:02
Cyflwyniad i Effesiaid.00:00:04
00:00:06
Ar gychwyn ei ail daith genhadol,00:00:09
00:00:09
daeth yr apostol Paul i ddinas borthladd Effesus,00:00:12
00:00:12
mae’n debyg ym mhum deg dau OG, gydag Acwila a Priscila.00:00:17
00:00:18
Ar ôl ymweliad byr, gadawodd Paul, ond arhosodd Acwila a Priscila yno00:00:24
00:00:24
i barhau gyda’r gwaith pregethu a dysgu.00:00:27
00:00:27
Ond ar ei drydedd daith genhadol, arhosodd Paul am tua thair blynedd,00:00:32
00:00:32
yn cyflawni ei weinidogaeth yn selog00:00:35
00:00:35
ac yn datblygu perthynas agos â brodyr Effesus.00:00:39
00:00:40
Yn nes ymlaen, o gwmpas 60 neu 61 OG,00:00:44
00:00:44
ysgrifennodd yr apostol Paul lythyr at gynulleidfa Effesus.00:00:48
00:00:48
Ysgrifennodd o Rufain, lle roedd o dan warchodaeth ac yn aros am ei dreial.00:00:52
00:00:54
Mae gan y llythyr i’r Effesiaid chwe phennod.00:00:57
00:00:59
Mae pennod 1 yn amlygu’r ffaith bod Duw wedi gosod ffordd o weinyddu00:01:04
00:01:04
(neu drefnu ei deulu ysbrydol).00:01:06
00:01:06
Byddai hynny’n uno’r rhai sy’n cael eu dewis i fyw yn y nefoedd00:01:10
00:01:10
a’r rhai a fyddai’n byw ar y ddaear gyda Jehofa trwy Grist.00:01:14
00:01:16
Ym mhennod 2, mae’r apostol yn cymharu Cyfraith Moses â wal00:01:21
00:01:21
a oedd wedi gwahanu’r Iddewon oddi wrth bobl y cenhedloedd ers tro.00:01:25
00:01:25
Gwnaeth marwolaeth aberthol Iesu roi terfyn ar gyfamod y Gyfraith00:01:30
00:01:30
ac felly chwalu’r wal rhwng y ddau grwp.00:01:33
00:01:35
Ym mhennod 3, mae Paul yn sôn am “ddirgelwch am y Meseia”00:01:39
00:01:39
ac yn esbonio bod Duw yn bwriadu cynnwys nifer o bobl nad ydyn nhw’n Iddewon00:01:44
00:01:44
ymhlith y nifer fechan o bobl a fydd yn rheoli gyda Christ yn y nefoedd.00:01:50
00:01:51
Oeddet ti’n gwybod?00:01:52
00:01:53
Roedd dinas Effesus yn enwog am deml anferth i’r dduwies Artemis.00:01:58
00:01:59
Yn ôl Actau pennod 19,00:02:02
00:02:02
roedd pobl yn Effesus yn creu ‘modelau arian o deml Artemis’00:02:06
00:02:06
ac yn ennill cyflog mawr o’u gwerthu.00:02:09
00:02:10
Yn ystod ei dair blynedd yn Effesus,00:02:13
00:02:13
dangosodd Paul i’r bobl nad oedd hi’n iawn i ddefnyddio delwau yn eu haddoliad.00:02:18
00:02:18
O ganlyniad, gwnaeth nifer fawr o bobl Effesus00:02:22
00:02:22
gefnu ar eilunaddoliaeth a dechrau addoli Jehofa.00:02:26
00:02:26
Oherwydd hynny, gwnaeth y rhai a oedd yn creu a gwerthu’r fath ddelwau wylltio a chodi terfysg.00:02:33
00:02:36
Ym mhennod 4,00:02:37
00:02:37
mae’r Effesiaid yn cael eu cynghori i gael gwared ar yr hen bersonoliaeth,
yn ôl eu hen arferion,00:02:43
00:02:43
ac i wisgo’r bersonoliaeth newydd yn ôl ewyllys Jehofa.00:02:48
00:02:49
Ym mhennod 5, anogodd Paul i’r Effesiaid fyw “bywydau llawn cariad.”00:02:55
00:02:55
Dylai’r cariad yna gael ei adlewyrchu o fewn y teulu.00:02:59
00:03:00
Mae gwragedd yn cael cyngor i fod yn atebol i’w gwŷr.00:03:03
00:03:04
Mae gwŷr yn cael cyngor i barhau i garu eu gwragedd,00:03:08
00:03:08
yn union fel mae Crist wedi caru’r gynulleidfa.00:03:12
00:03:13
Ym mhennod 6, mae Paul yn defnyddio eglureb am arfwisg00:03:18
00:03:18
ac yn annog yr Effesiaid i wisgo’r holl arfwisg ysbrydol.00:03:22
00:03:24
Bydd gwneud hyn yn helpu iddyn nhw aros yn ffyddlon er gwaethaf eu trafferthion.00:03:30
00:03:31
Wrth iti ddarllen y llythyr at yr Effesiaid,00:03:34
00:03:34
sylwa ar sut mae’n rhaid inni wisgo’r bersonoliaeth newydd yn ôl ewyllys Jehofa,00:03:39
00:03:39
ar sut dylen ni wisgo’r holl arfwisg ysbrydol,00:03:43
00:03:43
ac ar sut roedd Jehofa wedi trefnu i uno Iddewon â’r rhai nad oedden nhw’n Iddewon00:03:48
00:03:48
fel cyd-etifeddion Crist yn y Deyrnas.00:03:51
Cyflwyniad i Effesiaid
-
Cyflwyniad i Effesiaid
Cyflwyniad i Effesiaid.
Ar gychwyn ei ail daith genhadol,
daeth yr apostol Paul i ddinas borthladd Effesus,
mae’n debyg ym mhum deg dau OG, gydag Acwila a Priscila.
Ar ôl ymweliad byr, gadawodd Paul, ond arhosodd Acwila a Priscila yno
i barhau gyda’r gwaith pregethu a dysgu.
Ond ar ei drydedd daith genhadol, arhosodd Paul am tua thair blynedd,
yn cyflawni ei weinidogaeth yn selog
ac yn datblygu perthynas agos â brodyr Effesus.
Yn nes ymlaen, o gwmpas 60 neu 61 OG,
ysgrifennodd yr apostol Paul lythyr at gynulleidfa Effesus.
Ysgrifennodd o Rufain, lle roedd o dan warchodaeth ac yn aros am ei dreial.
Mae gan y llythyr i’r Effesiaid chwe phennod.
Mae pennod 1 yn amlygu’r ffaith bod Duw wedi gosod ffordd o weinyddu
(neu drefnu ei deulu ysbrydol).
Byddai hynny’n uno’r rhai sy’n cael eu dewis i fyw yn y nefoedd
a’r rhai a fyddai’n byw ar y ddaear gyda Jehofa trwy Grist.
Ym mhennod 2, mae’r apostol yn cymharu Cyfraith Moses â wal
a oedd wedi gwahanu’r Iddewon oddi wrth bobl y cenhedloedd ers tro.
Gwnaeth marwolaeth aberthol Iesu roi terfyn ar gyfamod y Gyfraith
ac felly chwalu’r wal rhwng y ddau grwp.
Ym mhennod 3, mae Paul yn sôn am “ddirgelwch am y Meseia”
ac yn esbonio bod Duw yn bwriadu cynnwys nifer o bobl nad ydyn nhw’n Iddewon
ymhlith y nifer fechan o bobl a fydd yn rheoli gyda Christ yn y nefoedd.
Oeddet ti’n gwybod?
Roedd dinas Effesus yn enwog am deml anferth i’r dduwies Artemis.
Yn ôl Actau pennod 19,
roedd pobl yn Effesus yn creu ‘modelau arian o deml Artemis’
ac yn ennill cyflog mawr o’u gwerthu.
Yn ystod ei dair blynedd yn Effesus,
dangosodd Paul i’r bobl nad oedd hi’n iawn i ddefnyddio delwau yn eu haddoliad.
O ganlyniad, gwnaeth nifer fawr o bobl Effesus
gefnu ar eilunaddoliaeth a dechrau addoli Jehofa.
Oherwydd hynny, gwnaeth y rhai a oedd yn creu a gwerthu’r fath ddelwau wylltio a chodi terfysg.
Ym mhennod 4,
mae’r Effesiaid yn cael eu cynghori i gael gwared ar yr hen bersonoliaeth,
yn ôl eu hen arferion,
ac i wisgo’r bersonoliaeth newydd yn ôl ewyllys Jehofa.
Ym mhennod 5, anogodd Paul i’r Effesiaid fyw “bywydau llawn cariad.”
Dylai’r cariad yna gael ei adlewyrchu o fewn y teulu.
Mae gwragedd yn cael cyngor i fod yn atebol i’w gwŷr.
Mae gwŷr yn cael cyngor i barhau i garu eu gwragedd,
yn union fel mae Crist wedi caru’r gynulleidfa.
Ym mhennod 6, mae Paul yn defnyddio eglureb am arfwisg
ac yn annog yr Effesiaid i wisgo’r holl arfwisg ysbrydol.
Bydd gwneud hyn yn helpu iddyn nhw aros yn ffyddlon er gwaethaf eu trafferthion.
Wrth iti ddarllen y llythyr at yr Effesiaid,
sylwa ar sut mae’n rhaid inni wisgo’r bersonoliaeth newydd yn ôl ewyllys Jehofa,
ar sut dylen ni wisgo’r holl arfwisg ysbrydol,
ac ar sut roedd Jehofa wedi trefnu i uno Iddewon â’r rhai nad oedden nhw’n Iddewon
fel cyd-etifeddion Crist yn y Deyrnas.
-