00:00:01
Cyflwyniad i Philipiaid.00:00:05
00:00:07
Ysgrifennodd yr apostol Paul y llythyr ysbrydoledig hwn o Rufain,00:00:11
00:00:11
lle roedd o dan arestiad tŷ.00:00:13
00:00:14
Ysgrifennodd y llythyr, tua 60 neu 61 OG.00:00:18
00:00:21
Rai blynyddoedd yn gynharach yn ystod ei ail daith genhadol,00:00:25
00:00:25
cafodd Paul weledigaeth tra oedd yn Troas.00:00:29
00:00:29
Dyma ddyn o Macedonia yn ymbil arno:00:00:32
00:00:32
“Tyrd draw i Macedonia i’n helpu ni!”00:00:34
00:00:36
Felly o gwmpas 50 OG,00:00:39
00:00:39
dechreuodd Paul a’i gyfeillion bregethu yn Ninas Philipi.00:00:43
00:00:46
Sefydlodd Paul gynulleidfa yno,00:00:48
00:00:48
ond roedd rhai yn gwrthwynebu.00:00:50
00:00:52
Cafodd o a Silas eu curo gyda ffyn a’u taflu i’r carchar,00:00:57
00:00:57
lle cafodd eu traed eu rhwymo mewn cyffion.00:01:00
00:01:02
Dychwelodd Paul i Philipi yn ystod ei drydedd daith genhadol.00:01:07
00:01:07
Mae ei lythyr at y gynulleidfa yn dangos y cariad arbennig00:01:11
00:01:11
rhyngddo ef a’r brodyr yn Philipi.00:01:14
00:01:17
Mae gan y llythyr at y Philipiaid bedair pennod.00:01:20
00:01:21
Ym mhennod un,00:01:22
00:01:22
mae Paul yn dweud bod cael ei garcharu yn Rhufain00:01:25
00:01:25
“wedi troi’n gyfle newydd i rannu’r newyddion da.”00:01:29
00:01:29
Mae dewrder yr apostol er gwaethaf gwrthwynebiad00:01:33
00:01:33
wedi atgyfnerthu’r brodyr i ddal ati i rannu neges Duw yn ddi-ofn.00:01:38
00:01:39
Ym mhennod 2,00:01:40
00:01:40
mae Paul yn annog y Philipiaid i barhau i efelychu agwedd Crist.00:01:45
00:01:46
Wedyn mae’n canmol y Philipiaid,00:01:49
00:01:49
oherwydd eu bod nhw yn “disgleirio ... fel goleuadau yn y byd.”00:01:53
00:01:54
Oeddet ti’n gwybod?00:01:55
00:01:55
Ryw dro yn gynharach,00:01:57
00:01:57
roedd y Philipiaid wedi anfon Epaffroditus i Rufain gydag anrheg i Paul.00:02:02
00:02:02
Yn nes ymlaen, anfonodd Paul Epaffroditus yn ôl i Philipi00:02:07
00:02:07
gyda’i lythyr ysbrydoledig at y gynulleidfa.00:02:10
00:02:12
Ym mhennod 3,00:02:13
00:02:13
mae Paul yn rhybuddio am y rhai sydd yn “ymddiried yn y cnawd,”00:02:17
00:02:17
oherwydd eu cefndir Iddewig mae’n debyg.00:02:20
00:02:21
Mae Paul yn ystyried unrhyw fanteision a oedd ganddo fel Pharisead,00:02:26
00:02:26
yn sbwriel o’u cymharu â’r fraint o ddod i adnabod Crist a bod yn unol ag ef.00:02:32
00:02:33
Ym mhennod pedwar,00:02:35
00:02:35
mae’r Philipiaid yn cael eu hatgoffa i beidio â ‘gadael i ddim byd eu poeni nhw,’00:02:39
00:02:39
ac i geisio’r “heddwch perffaith mae Duw’n ei roi”00:02:42
00:02:42
drwy weddi, ymbil, a diolchgarwch.00:02:45
00:02:45
Mae Paul hefyd yn diolch i’r gynulleidfa00:02:48
00:02:48
am fod mor hael wrth ofalu am ei anghenion materol.00:02:52
00:02:53
Wrth iti ddarllen y llythyr at y Philipiaid,00:02:55
00:02:55
sylwa ar sut mae aros yn gadarn yn wyneb treialon00:02:58
00:02:58
yn gallu annog eraill i sefyll yn gadarn,00:03:01
00:03:01
ar sut mae gair ac ysbryd Duw yn gallu ein helpu00:03:04
00:03:04
i ddal ati i efelychu agwedd Crist,00:03:07
00:03:07
ac ar sut mae gwir heddwch00:03:09
00:03:09
yn dod i’r rhai sy’n troi at Dduw mewn gweddi daer00:03:12
00:03:12
wrth iddyn nhw aros i’w Deyrnas ddechrau rheoli.00:03:15
Cyflwyniad i Philipiaid
-
Cyflwyniad i Philipiaid
Cyflwyniad i Philipiaid.
Ysgrifennodd yr apostol Paul y llythyr ysbrydoledig hwn o Rufain,
lle roedd o dan arestiad tŷ.
Ysgrifennodd y llythyr, tua 60 neu 61 OG.
Rai blynyddoedd yn gynharach yn ystod ei ail daith genhadol,
cafodd Paul weledigaeth tra oedd yn Troas.
Dyma ddyn o Macedonia yn ymbil arno:
“Tyrd draw i Macedonia i’n helpu ni!”
Felly o gwmpas 50 OG,
dechreuodd Paul a’i gyfeillion bregethu yn Ninas Philipi.
Sefydlodd Paul gynulleidfa yno,
ond roedd rhai yn gwrthwynebu.
Cafodd o a Silas eu curo gyda ffyn a’u taflu i’r carchar,
lle cafodd eu traed eu rhwymo mewn cyffion.
Dychwelodd Paul i Philipi yn ystod ei drydedd daith genhadol.
Mae ei lythyr at y gynulleidfa yn dangos y cariad arbennig
rhyngddo ef a’r brodyr yn Philipi.
Mae gan y llythyr at y Philipiaid bedair pennod.
Ym mhennod un,
mae Paul yn dweud bod cael ei garcharu yn Rhufain
“wedi troi’n gyfle newydd i rannu’r newyddion da.”
Mae dewrder yr apostol er gwaethaf gwrthwynebiad
wedi atgyfnerthu’r brodyr i ddal ati i rannu neges Duw yn ddi-ofn.
Ym mhennod 2,
mae Paul yn annog y Philipiaid i barhau i efelychu agwedd Crist.
Wedyn mae’n canmol y Philipiaid,
oherwydd eu bod nhw yn “disgleirio ... fel goleuadau yn y byd.”
Oeddet ti’n gwybod?
Ryw dro yn gynharach,
roedd y Philipiaid wedi anfon Epaffroditus i Rufain gydag anrheg i Paul.
Yn nes ymlaen, anfonodd Paul Epaffroditus yn ôl i Philipi
gyda’i lythyr ysbrydoledig at y gynulleidfa.
Ym mhennod 3,
mae Paul yn rhybuddio am y rhai sydd yn “ymddiried yn y cnawd,”
oherwydd eu cefndir Iddewig mae’n debyg.
Mae Paul yn ystyried unrhyw fanteision a oedd ganddo fel Pharisead,
yn sbwriel o’u cymharu â’r fraint o ddod i adnabod Crist a bod yn unol ag ef.
Ym mhennod pedwar,
mae’r Philipiaid yn cael eu hatgoffa i beidio â ‘gadael i ddim byd eu poeni nhw,’
ac i geisio’r “heddwch perffaith mae Duw’n ei roi”
drwy weddi, ymbil, a diolchgarwch.
Mae Paul hefyd yn diolch i’r gynulleidfa
am fod mor hael wrth ofalu am ei anghenion materol.
Wrth iti ddarllen y llythyr at y Philipiaid,
sylwa ar sut mae aros yn gadarn yn wyneb treialon
yn gallu annog eraill i sefyll yn gadarn,
ar sut mae gair ac ysbryd Duw yn gallu ein helpu
i ddal ati i efelychu agwedd Crist,
ac ar sut mae gwir heddwch
yn dod i’r rhai sy’n troi at Dduw mewn gweddi daer
wrth iddyn nhw aros i’w Deyrnas ddechrau rheoli.
-