00:00:02
Cyflwyniad i Colosiaid.00:00:04
00:00:06
Ysgrifennodd yr apostol Paul y llythyr ysbrydoledig hwn00:00:10
00:00:10
yn Rhufain o gwmpas y flwyddyn 60 neu 61 OG.00:00:15
00:00:15
Roedd hyn yn ystod ei garchariad cyntaf yno tra oedd o dan arestiad tŷ.00:00:20
00:00:20
Mae llythyr cyntaf Paul at y Colosiaid yn awgrymu nad oedd wedi ymweld â Colosae.00:00:26
00:00:26
Mae’n debyg bod y gynulleidfa yno wedi dod o ganlyniad i waith caled Epaffras.00:00:31
00:00:31
Ond eto, roedd Paul yn adnabod sawl aelod o’r gynulleidfa yno,00:00:35
00:00:35
gan gynnwys Apffia, Archipus, a Philemon, a dderbyniodd lythyr ysbrydoledig arall gan Paul.00:00:42
00:00:42
Ar ôl i’r gynulleidfa gael ei sefydlu,00:00:45
00:00:45
gwnaeth gau athrawon geisio camarwain Cristnogion Colosae gydag athroniaethau twyllodrus.00:00:51
00:00:51
Gwnaeth Epaffras deithio cannoedd o filltiroedd o Golosae i Rufain00:00:56
00:00:56
er mwyn rhoi adroddiad i Paul am y gynulleidfa.00:01:00
00:01:01
Mae gan y llythyr at y Colosiaid bedair pennod.00:01:04
00:01:04
Ym mhennod un, mae Paul yn mynegi ei ddymuniad00:01:08
00:01:08
bod y Colosiaid yn parhau i dderbyn gwybodaeth gywir am Dduw.00:01:13
00:01:13
Yna mae Paul yn disgrifio mab Duw fel “delw’r Duw anweledig,00:01:18
00:01:18
cyntafanedig yr holl greadigaeth” a’r un “y crewyd pob peth” drwyddo.00:01:24
00:01:24
Crist hefyd yw pen y gynulleidfa.00:01:27
00:01:28
Ym mhennod 2, mae’r apostol yn rhybuddio’r Colosiaid00:01:31
00:01:31
am rai sydd yn hyrwyddo gwahanol athroniaethau ac sy’n glynu wrth Gyfraith Moses.00:01:37
00:01:37
Mae Paul yn egluro bod Cyfraith Moses wedi cael ei dileu a’i symud ymaith.00:01:42
00:01:42
Yn ffigurol, roedd Duw wedi hoelio’r Gyfraith ar stanc Crist.00:01:47
00:01:48
Oeddet ti’n gwybod?00:01:49
00:01:49
Yn Colosiaid 4:10, mae Paul yn sôn am “Marc, cefnder Barnabas.”00:01:54
00:01:54
Am gyfnod byr, aeth Marc, sydd hefyd yn cael ei alw’n Ioan,00:01:59
00:01:59
gyda Paul a Barnabas ar eu taith genhadol gyntaf.00:02:03
00:02:03
Ond gwnaeth Marc eu gadael nhw, a dychwelyd efallai i Jerwsalem,00:02:08
00:02:08
a gwnaeth hynny siomi Paul.00:02:11
00:02:11
Ond tua 12 mlynedd wedyn, roedd Marc yn Rhufain yn gyd-weithiwr i Paul.00:02:17
00:02:17
Yn amlwg, roedden nhw’n ffrindiau unwaith eto.00:02:20
00:02:22
Ym mhennod 3, mae Paul yn annog y gynulleidfa i ddal ati i geisio’r pethau sydd uchod,00:02:29
00:02:29
“lle mae’r meseia yn eistedd . . . ar ochr dde Duw.”00:02:32
00:02:33
Mae’r apostol hefyd yn annog y Colosiaid i roi heibio’r hen bersonoliaeth,00:02:38
00:02:38
i wisgo’r bersonoliaeth newydd,00:02:41
00:02:41
ac i barhau i faddau i eraill yn rhwydd.00:02:45
00:02:46
Ym mhennod 4, mae Paul yn dweud wrth y Colosiaid00:02:49
00:02:49
am barhau mewn gweddi a diolchgarwch.00:02:52
00:02:53
Y mae hefyd yn ysgrifennu:00:02:55
00:02:55
‘Bydded eich gair bob amser yn rasol, wedi ei flasu â halen,00:03:00
00:03:00
i chi fedru ateb pob un fel y dylid.’00:03:03
00:03:06
Wrth iti ddarllen y llythyr ysbrydoledig at y Colosiaid,00:03:09
00:03:09
sylwa ar sut y dylen ni barhau i dderbyn gwybodaeth gywir am Dduw,00:03:14
00:03:14
ar sut y gallwn ni efelychu personoliaeth Crist,00:03:17
00:03:17
ac ar sut y dylai ein hiaith fod yn rasol drwy’r amser,00:03:21
00:03:21
yn enwedig pan ydyn ni’n pregethu’r newyddion da am Deyrnas Dduw.00:03:25
Cyflwyniad i Colosiaid
-
Cyflwyniad i Colosiaid
Cyflwyniad i Colosiaid.
Ysgrifennodd yr apostol Paul y llythyr ysbrydoledig hwn
yn Rhufain o gwmpas y flwyddyn 60 neu 61 OG.
Roedd hyn yn ystod ei garchariad cyntaf yno tra oedd o dan arestiad tŷ.
Mae llythyr cyntaf Paul at y Colosiaid yn awgrymu nad oedd wedi ymweld â Colosae.
Mae’n debyg bod y gynulleidfa yno wedi dod o ganlyniad i waith caled Epaffras.
Ond eto, roedd Paul yn adnabod sawl aelod o’r gynulleidfa yno,
gan gynnwys Apffia, Archipus, a Philemon, a dderbyniodd lythyr ysbrydoledig arall gan Paul.
Ar ôl i’r gynulleidfa gael ei sefydlu,
gwnaeth gau athrawon geisio camarwain Cristnogion Colosae gydag athroniaethau twyllodrus.
Gwnaeth Epaffras deithio cannoedd o filltiroedd o Golosae i Rufain
er mwyn rhoi adroddiad i Paul am y gynulleidfa.
Mae gan y llythyr at y Colosiaid bedair pennod.
Ym mhennod un, mae Paul yn mynegi ei ddymuniad
bod y Colosiaid yn parhau i dderbyn gwybodaeth gywir am Dduw.
Yna mae Paul yn disgrifio mab Duw fel “delw’r Duw anweledig,
cyntafanedig yr holl greadigaeth” a’r un “y crewyd pob peth” drwyddo.
Crist hefyd yw pen y gynulleidfa.
Ym mhennod 2, mae’r apostol yn rhybuddio’r Colosiaid
am rai sydd yn hyrwyddo gwahanol athroniaethau ac sy’n glynu wrth Gyfraith Moses.
Mae Paul yn egluro bod Cyfraith Moses wedi cael ei dileu a’i symud ymaith.
Yn ffigurol, roedd Duw wedi hoelio’r Gyfraith ar stanc Crist.
Oeddet ti’n gwybod?
Yn Colosiaid 4:10, mae Paul yn sôn am “Marc, cefnder Barnabas.”
Am gyfnod byr, aeth Marc, sydd hefyd yn cael ei alw’n Ioan,
gyda Paul a Barnabas ar eu taith genhadol gyntaf.
Ond gwnaeth Marc eu gadael nhw, a dychwelyd efallai i Jerwsalem,
a gwnaeth hynny siomi Paul.
Ond tua 12 mlynedd wedyn, roedd Marc yn Rhufain yn gyd-weithiwr i Paul.
Yn amlwg, roedden nhw’n ffrindiau unwaith eto.
Ym mhennod 3, mae Paul yn annog y gynulleidfa i ddal ati i geisio’r pethau sydd uchod,
“lle mae’r meseia yn eistedd . . . ar ochr dde Duw.”
Mae’r apostol hefyd yn annog y Colosiaid i roi heibio’r hen bersonoliaeth,
i wisgo’r bersonoliaeth newydd,
ac i barhau i faddau i eraill yn rhwydd.
Ym mhennod 4, mae Paul yn dweud wrth y Colosiaid
am barhau mewn gweddi a diolchgarwch.
Y mae hefyd yn ysgrifennu:
‘Bydded eich gair bob amser yn rasol, wedi ei flasu â halen,
i chi fedru ateb pob un fel y dylid.’
Wrth iti ddarllen y llythyr ysbrydoledig at y Colosiaid,
sylwa ar sut y dylen ni barhau i dderbyn gwybodaeth gywir am Dduw,
ar sut y gallwn ni efelychu personoliaeth Crist,
ac ar sut y dylai ein hiaith fod yn rasol drwy’r amser,
yn enwedig pan ydyn ni’n pregethu’r newyddion da am Deyrnas Dduw.
-