00:00:02
Cyflwyniad i 2 Thesaloniaid.00:00:05
00:00:06
Cafodd yr apostol Paul ei ysbrydoli i ysgrifennu’r llythyr pwysig hwn yng Nghorinth tua 51 OG,00:00:14
00:00:14
ychydig ar ôl iddo ysgrifennu ei lythyr cyntaf at y Thesaloniaid.00:00:18
00:00:18
Yn ei lythyr cyntaf, mae Paul yn annog y brodyr i fyw yn dawel, i beidio â busnesu,00:00:24
00:00:24
ac i weithio’n galed i ofalu am eu hanghenion materol.00:00:28
00:00:28
Roedd y cyngor hwn yn dal yn briodol.00:00:31
00:00:31
Mae’n ymddangos bod rhai yn dal i fusnesu ym materion pobl eraill00:00:35
00:00:35
ac yn anfodlon gweithio i ofalu am eu hanghenion materol.00:00:39
00:00:39
Hefyd, efallai fod y gynulleidfa wedi derbyn llythyrau neu negeseuon yn honni eu bod nhw wedi dod o’r apostol Paul,00:00:47
00:00:47
neu frodyr cyfrifol eraill, yn dweud bod ‘dydd Jehofa eisoes wedi dod.’00:00:52
00:00:53
Mae gan yr ail lythyr at y Thesaloniaid dair pennod.00:00:57
00:00:58
Ym mhennod un, mae Paul yn canmol y brodyr am eu ffydd a’u dyfalbarhad,00:01:03
00:01:03
ac yn esbonio bydd y ‘dioddef yn dod i ben’ i’r rhai sy’n wynebu profedigaeth pan fydd Iesu yn dod fel Brenin y Deyrnas i ddinistrio gelynion Duw.00:01:13
00:01:15
Ym mhennod 2, mae llythyr Paul yn esbonio beth sydd yn gorfod digwydd cyn i ddydd Jehofa gyrraedd.00:01:21
00:01:22
Mae’r pethau hynny yn cynnwys gwrthgiliad mawr yn datblygu, a’r “un digyfraith” yn cael ei ddatgelu,00:01:29
00:01:29
sef dyn sy’n cynrychioli grŵp cyfansawdd o arweinwyr crefyddol gwrthgiliol.00:01:34
00:01:34
Byddai’r dyn symbolaidd hwn yn ei ddyrchafu ei hun dros y cynulleidfaoedd.00:01:40
00:01:40
Oeddet ti’n gwybod?00:01:41
00:01:41
Oherwydd bod llythyr nad oedd Paul wedi ei ysgrifennu, efallai yn cael ei ddosbarthu yn ei enw,00:01:47
00:01:47
mae Paul yn esbonio: “Dw i’n ysgrifennu’r cyfarchiad yma yn fy llawysgrifen fy hun—Paul.00:01:53
00:01:53
Dyma sy’n dangos yn fy holl lythyrau mai fi sy’n ysgrifennu.”00:01:57
00:01:58
Ym mhennod 3, mae Paul yn cynghori’r gynulleidfa i ‘gadw llygad ar’ unrhyw rai yn y gynulleidfa sy’n afreolus a stopio cymdeithasu â nhw,00:02:08
00:02:08
efallai oherwydd nad ydyn nhw’n fodlon gweithio.00:02:11
00:02:12
Er hynny, ni ddylai’r gynulleidfa eu trin nhw fel gelynion, ond eu ‘rhybuddio fel brodyr.’00:02:19
00:02:20
Y nod ydy eu hysgogi nhw i edifarhau.00:02:24
00:02:25
Wrth iti ddarllen 2 Thesaloniaid,00:02:28
00:02:28
sylwa ar sut mae Satan yn defnyddio dynion drygionus i lygru dysgeidiaethau pur Crist;00:02:34
00:02:34
ar sut mae hi’n ddoeth i stopio cymdeithasu â rhai afreolus, ond eu ‘rhybuddio fel brodyr’;00:02:41
00:02:41
ac ar sut mae angen dal ati yn wyneb profedigaeth wrth inni aros yn amyneddgar am reolaeth y Deyrnas.00:02:47
Cyflwyniad i 2 Thesaloniaid
-
Cyflwyniad i 2 Thesaloniaid
Cyflwyniad i 2 Thesaloniaid.
Cafodd yr apostol Paul ei ysbrydoli i ysgrifennu’r llythyr pwysig hwn yng Nghorinth tua 51 OG,
ychydig ar ôl iddo ysgrifennu ei lythyr cyntaf at y Thesaloniaid.
Yn ei lythyr cyntaf, mae Paul yn annog y brodyr i fyw yn dawel, i beidio â busnesu,
ac i weithio’n galed i ofalu am eu hanghenion materol.
Roedd y cyngor hwn yn dal yn briodol.
Mae’n ymddangos bod rhai yn dal i fusnesu ym materion pobl eraill
ac yn anfodlon gweithio i ofalu am eu hanghenion materol.
Hefyd, efallai fod y gynulleidfa wedi derbyn llythyrau neu negeseuon yn honni eu bod nhw wedi dod o’r apostol Paul,
neu frodyr cyfrifol eraill, yn dweud bod ‘dydd Jehofa eisoes wedi dod.’
Mae gan yr ail lythyr at y Thesaloniaid dair pennod.
Ym mhennod un, mae Paul yn canmol y brodyr am eu ffydd a’u dyfalbarhad,
ac yn esbonio bydd y ‘dioddef yn dod i ben’ i’r rhai sy’n wynebu profedigaeth pan fydd Iesu yn dod fel Brenin y Deyrnas i ddinistrio gelynion Duw.
Ym mhennod 2, mae llythyr Paul yn esbonio beth sydd yn gorfod digwydd cyn i ddydd Jehofa gyrraedd.
Mae’r pethau hynny yn cynnwys gwrthgiliad mawr yn datblygu, a’r “un digyfraith” yn cael ei ddatgelu,
sef dyn sy’n cynrychioli grŵp cyfansawdd o arweinwyr crefyddol gwrthgiliol.
Byddai’r dyn symbolaidd hwn yn ei ddyrchafu ei hun dros y cynulleidfaoedd.
Oeddet ti’n gwybod?
Oherwydd bod llythyr nad oedd Paul wedi ei ysgrifennu, efallai yn cael ei ddosbarthu yn ei enw,
mae Paul yn esbonio: “Dw i’n ysgrifennu’r cyfarchiad yma yn fy llawysgrifen fy hun—Paul.
Dyma sy’n dangos yn fy holl lythyrau mai fi sy’n ysgrifennu.”
Ym mhennod 3, mae Paul yn cynghori’r gynulleidfa i ‘gadw llygad ar’ unrhyw rai yn y gynulleidfa sy’n afreolus a stopio cymdeithasu â nhw,
efallai oherwydd nad ydyn nhw’n fodlon gweithio.
Er hynny, ni ddylai’r gynulleidfa eu trin nhw fel gelynion, ond eu ‘rhybuddio fel brodyr.’
Y nod ydy eu hysgogi nhw i edifarhau.
Wrth iti ddarllen 2 Thesaloniaid,
sylwa ar sut mae Satan yn defnyddio dynion drygionus i lygru dysgeidiaethau pur Crist;
ar sut mae hi’n ddoeth i stopio cymdeithasu â rhai afreolus, ond eu ‘rhybuddio fel brodyr’;
ac ar sut mae angen dal ati yn wyneb profedigaeth wrth inni aros yn amyneddgar am reolaeth y Deyrnas.
-