00:00:02
Cyflwyniad i 1 Timotheus.00:00:05
00:00:06
Ysgrifennodd yr apostol Paul ei lythyr cyntaf at Timotheus ym Macedonia, tua 61-64 OG.00:00:14
00:00:14
Mae Paul yn awgrymu bod Timotheus yn Effesus ar y pryd.00:00:18
00:00:18
Ysgrifennodd Paul 1 Timotheus i esbonio trefniadau yn y gynulleidfa00:00:23
00:00:23
ac i rybuddio yn erbyn gau ddysgeidiaethau a chariad tuag at arian.00:00:28
00:00:28
Mae gan 1 Timotheus chwe phennod.00:00:31
00:00:31
Ym mhennod un, mae Paul yn annog Timotheus i aros yn Effesus00:00:36
00:00:36
er mwyn cywiro’r rhai sydd wedi crwydro oddi wrth ddysgeidiaethau Crist.00:00:40
00:00:40
Mae Paul hefyd yn mynegi diolchgarwch am drugaredd Crist.00:00:45
00:00:45
Er bod Paul wedi erlid y gynulleidfa Gristnogol,00:00:48
00:00:48
mae Iesu yn ei ystyried yn ffyddlon drwy aseinio gweinidogaeth iddo.00:00:53
00:00:54
Ym mhennod dau, mae Paul yn sôn am yr angen i weddïo dros eraill gan gynnwys swyddogion y llywodraeth,00:01:00
00:01:00
fel bod pobl Dduw yn gallu byw bywyd tawel a gwneud y weinidogaeth mewn heddwch.00:01:06
00:01:07
Mae’n esbonio mai bwriad Duw ydy “i bobl o bob math gael eu hachub a dod i wybod y gwir.”00:01:13
00:01:15
Ym mhennod tri, mae Paul yn egluro’r cymwysterau ysbrydol00:01:19
00:01:19
ar gyfer y rhai sydd â’u bryd ar fod yn arolygwyr neu’n weision gweinidogaethol.00:01:25
00:01:26
Oeddet ti’n gwybod?00:01:27
00:01:27
Mae’r ferf Roeg a gyfieithir “â’u bryd ar” yn golygu “ymestyn i gael gafael ar rywbeth,”00:01:33
00:01:33
sy’n dangos bod brodyr sydd eisiau gwasanaethu yn y gynulleidfa yn gorfod gwneud ymdrech fawr.00:01:39
00:01:39
Mae Paul yn ysgrifennu ym mhennod pedwar y bydd yr amser yn dod00:01:43
00:01:43
pan fydd rhai yn cefnu ar y gwir ac yn camarwain eraill.00:01:47
00:01:47
Bydd y gwrthgilwyr hyn yn dweud celwyddau a hyd yn oed yn rhwystro pobl rhag priodi.00:01:53
00:01:53
Mae’n annog Timotheus i fod yn esiampl dda drwy ei eiriau, ei ymddygiad, a’i gariad.00:01:59
00:01:59
Dylai Timotheus barhau i ymroi i ddarllen a dysgu yn gyhoeddus.00:02:05
00:02:05
Ym mhennod pump, mae Paul yn dweud y dylai Timotheus drin dynion hŷn fel tadau,00:02:11
00:02:11
dynion ifanc fel brodyr,00:02:13
00:02:13
gwragedd hŷn fel mamau,00:02:14
00:02:14
a gwragedd ifanc fel chwiorydd.00:02:17
00:02:18
Mae’n esbonio i Timotheus y dylai’r gynulleidfa roi help materol i weddwon oedrannus00:02:25
00:02:25
sydd mewn gwir angen ac sydd ag enw da am wneud daioni.00:02:30
00:02:31
Ym mhennod chwech,00:02:33
00:02:33
mae Paul yn dweud bod y rhai sy’n dysgu pethau sy’n mynd yn groes i ddysgeidiaethau Crist00:02:38
00:02:38
yn llawn ohonyn nhw eu hunain.00:02:40
00:02:40
Hefyd, mae Paul yn dweud00:02:42
00:02:42
y bydd “pobl sydd eisiau bod yn gyfoethog yn syrthio i demtasiwn00:02:46
00:02:46
ac yn cael eu trapio gan chwantau ffôl.”00:02:48
00:02:48
Bydd eu cariad tuag at arian yn difetha eu bywydau ysbrydol00:02:53
00:02:53
ac yn achosi loes a galar iddyn nhw.00:02:55
00:02:56
Yn hytrach na bod yn farus, dylai dilynwyr Crist fod yn hael,00:03:00
00:03:00
yn barod i rannu,00:03:02
00:03:02
ac ymddiried yn Nuw,00:03:03
00:03:03
fel eu bod nhw’n gallu cael gafael yn y bywyd go iawn.00:03:07
00:03:09
Wrth iti ddarllen 1 Timotheus,00:03:11
00:03:11
sylwa ar sut mae Jehofa eisiau “i bobl o bob math gael eu hachub a dod i wybod y gwir,”00:03:17
00:03:17
ar sut gall Cristnogion osgoi cariad at arian,00:03:21
00:03:21
ac ar sut gallwn ni gael gafael ar y bywyd go iawn,00:03:24
00:03:24
sydd ond yn dod inni drwy Deyrnas Dduw.00:03:27
Cyflwyniad i 1 Timotheus
-
Cyflwyniad i 1 Timotheus
Cyflwyniad i 1 Timotheus.
Ysgrifennodd yr apostol Paul ei lythyr cyntaf at Timotheus ym Macedonia, tua 61-64 OG.
Mae Paul yn awgrymu bod Timotheus yn Effesus ar y pryd.
Ysgrifennodd Paul 1 Timotheus i esbonio trefniadau yn y gynulleidfa
ac i rybuddio yn erbyn gau ddysgeidiaethau a chariad tuag at arian.
Mae gan 1 Timotheus chwe phennod.
Ym mhennod un, mae Paul yn annog Timotheus i aros yn Effesus
er mwyn cywiro’r rhai sydd wedi crwydro oddi wrth ddysgeidiaethau Crist.
Mae Paul hefyd yn mynegi diolchgarwch am drugaredd Crist.
Er bod Paul wedi erlid y gynulleidfa Gristnogol,
mae Iesu yn ei ystyried yn ffyddlon drwy aseinio gweinidogaeth iddo.
Ym mhennod dau, mae Paul yn sôn am yr angen i weddïo dros eraill gan gynnwys swyddogion y llywodraeth,
fel bod pobl Dduw yn gallu byw bywyd tawel a gwneud y weinidogaeth mewn heddwch.
Mae’n esbonio mai bwriad Duw ydy “i bobl o bob math gael eu hachub a dod i wybod y gwir.”
Ym mhennod tri, mae Paul yn egluro’r cymwysterau ysbrydol
ar gyfer y rhai sydd â’u bryd ar fod yn arolygwyr neu’n weision gweinidogaethol.
Oeddet ti’n gwybod?
Mae’r ferf Roeg a gyfieithir “â’u bryd ar” yn golygu “ymestyn i gael gafael ar rywbeth,”
sy’n dangos bod brodyr sydd eisiau gwasanaethu yn y gynulleidfa yn gorfod gwneud ymdrech fawr.
Mae Paul yn ysgrifennu ym mhennod pedwar y bydd yr amser yn dod
pan fydd rhai yn cefnu ar y gwir ac yn camarwain eraill.
Bydd y gwrthgilwyr hyn yn dweud celwyddau a hyd yn oed yn rhwystro pobl rhag priodi.
Mae’n annog Timotheus i fod yn esiampl dda drwy ei eiriau, ei ymddygiad, a’i gariad.
Dylai Timotheus barhau i ymroi i ddarllen a dysgu yn gyhoeddus.
Ym mhennod pump, mae Paul yn dweud y dylai Timotheus drin dynion hŷn fel tadau,
dynion ifanc fel brodyr,
gwragedd hŷn fel mamau,
a gwragedd ifanc fel chwiorydd.
Mae’n esbonio i Timotheus y dylai’r gynulleidfa roi help materol i weddwon oedrannus
sydd mewn gwir angen ac sydd ag enw da am wneud daioni.
Ym mhennod chwech,
mae Paul yn dweud bod y rhai sy’n dysgu pethau sy’n mynd yn groes i ddysgeidiaethau Crist
yn llawn ohonyn nhw eu hunain.
Hefyd, mae Paul yn dweud
y bydd “pobl sydd eisiau bod yn gyfoethog yn syrthio i demtasiwn
ac yn cael eu trapio gan chwantau ffôl.”
Bydd eu cariad tuag at arian yn difetha eu bywydau ysbrydol
ac yn achosi loes a galar iddyn nhw.
Yn hytrach na bod yn farus, dylai dilynwyr Crist fod yn hael,
yn barod i rannu,
ac ymddiried yn Nuw,
fel eu bod nhw’n gallu cael gafael yn y bywyd go iawn.
Wrth iti ddarllen 1 Timotheus,
sylwa ar sut mae Jehofa eisiau “i bobl o bob math gael eu hachub a dod i wybod y gwir,”
ar sut gall Cristnogion osgoi cariad at arian,
ac ar sut gallwn ni gael gafael ar y bywyd go iawn,
sydd ond yn dod inni drwy Deyrnas Dduw.
-