00:00:01
Cyflwyniad i 2 Timotheus00:00:05
00:00:06
Cafodd y llythyr hwn ei ysgrifennu gan yr apostol Paul yn Rhufain tua 65 OG.00:00:12
00:00:13
Roedd yr Ymerawdwr Nero wedi dechrau erlid Cristnogion,00:00:17
00:00:17
ac roedd Paul yn y carchar yn Rhufain unwaith eto.00:00:20
00:00:21
Yn ystod ei garchariad cyntaf roedd o dan arestiad tŷ.00:00:25
00:00:25
Y tro hwn roedd ei sefyllfa yn llawer mwy difrifol,00:00:30
00:00:30
nid yn unig yr oedd mewn cadwyni ond roedd ar fin wynebu marwolaeth.00:00:34
00:00:36
Ysgrifennodd Paul y llythyr caredig hwn at Timotheus00:00:40
00:00:40
i’w annog i “ailgynnau’r fflam, a meithrin y ddawn roddodd Duw” iddo,00:00:45
00:00:45
i wneud ei orau glas i gadw perthynas dda â Duw,00:00:49
00:00:49
ac i ffoi rhag chwantau anweddus ieuenctid.00:00:52
00:00:53
Mae gan 2 Timotheus bedair pennod.00:00:57
00:00:57
Mae Paul yn cychwyn ei lythyr gydag anogaeth wresog ar gyfer Timotheus,00:01:02
00:01:02
sydd efallai yn dal yn Effesus.00:01:05
00:01:05
Mae Paul yn dweud bod rhai brodyr yn Asia wedi cefnu arno,00:01:09
00:01:09
ond mae’n canmol Onesifforws a wnaeth chwilio’n ddewr am Paul er mwyn ei helpu.00:01:15
00:01:16
Ym mhennod 2, mae Paul yn dweud wrth Timotheus00:01:19
00:01:19
am ddysgu’r dynion ffyddlon eraill am yr holl bethau y mae wedi eu dysgu gan Paul.00:01:25
00:01:25
Mae’r apostol yn annog Timotheus i wrthod dadlau ffôl,00:01:29
00:01:29
sy’n “gwneud dim ond achosi gwrthdaro.”00:01:32
00:01:33
Oeddet ti’n gwybod?00:01:34
00:01:34
Ail lythyr Paul at Timotheus ydy’r olaf o 14 llyfr00:01:39
00:01:39
y cafodd yr apostol ei ysbrydoli i’w hysgrifennu dros gyfnod o tua 15 mlynedd.00:01:45
00:01:45
Ysgrifennodd o leiaf bump o’r llyfrau hynny tra oedd o dan arestiad yn Rhufain.00:01:51
00:01:51
A chafodd Hebreaid ei ysgrifennu naill ai ychydig cyn,00:01:54
00:01:54
neu ychydig ar ôl iddo gael ei ryddhau.00:01:57
00:01:59
Ym mhennod 3, mae Paul yn rhagddweud sut bydd pobl yn ymddwyn yn nyddiau olaf byd Satan.00:02:06
00:02:07
Wedyn mae Paul yn atgoffa Timotheus00:02:10
00:02:10
mai “Duw sydd wedi ysbrydoli’r” ysgrythurau,00:02:12
00:02:12
a thrwyddyn nhw y mae’n gallu deall ‘sut i gael ei achub.’00:02:16
00:02:17
Hefyd mae Paul yn dweud y bydd rhai sydd eisiau byw bywyd duwiol00:02:23
00:02:23
yn unol â Iesu Grist yn cael eu herlid.00:02:26
00:02:28
Ym mhennod 4, mae Paul yn rhybuddio Timotheus00:02:32
00:02:32
fod pregethu’r gair yn fater o frys,00:02:34
00:02:34
oherwydd bod yr amser yn dod pan fydd rhai yn gwrthod y gwir00:02:39
00:02:39
ac yn dewis gwrando ar straeon ffals yn unig.00:02:42
00:02:43
Wedyn mae Paul yn awgrymu bod ei farwolaeth yn agosáu,00:02:47
00:02:47
felly mae’n gofyn i Timotheus ddod i’w weld yn fuan,00:02:50
00:02:50
ac i ddod â Marc gydag ef.00:02:52
00:02:53
Wrth iti ddarllen ail lythyr Paul at Timotheus,00:02:58
00:02:58
sylwa ar sut mae Paul, er ei fod yn wynebu marwolaeth,00:03:02
00:03:02
yn poeni’n bennaf am bobl eraill, yn enwedig Timotheus annwyl;00:03:06
00:03:06
ar sut bydd pawb sydd eisiau byw bywyd duwiol yn cael eu herlid;00:03:11
00:03:12
ac ar sut y dylen ninnau, fel Paul a Timotheus,00:03:15
00:03:15
ddal ati i rannu’r newyddion da a chanolbwyntio ar Deyrnas Dduw.00:03:21
Cyflwyniad i 2 Timotheus
-
Cyflwyniad i 2 Timotheus
Cyflwyniad i 2 Timotheus
Cafodd y llythyr hwn ei ysgrifennu gan yr apostol Paul yn Rhufain tua 65 OG.
Roedd yr Ymerawdwr Nero wedi dechrau erlid Cristnogion,
ac roedd Paul yn y carchar yn Rhufain unwaith eto.
Yn ystod ei garchariad cyntaf roedd o dan arestiad tŷ.
Y tro hwn roedd ei sefyllfa yn llawer mwy difrifol,
nid yn unig yr oedd mewn cadwyni ond roedd ar fin wynebu marwolaeth.
Ysgrifennodd Paul y llythyr caredig hwn at Timotheus
i’w annog i “ailgynnau’r fflam, a meithrin y ddawn roddodd Duw” iddo,
i wneud ei orau glas i gadw perthynas dda â Duw,
ac i ffoi rhag chwantau anweddus ieuenctid.
Mae gan 2 Timotheus bedair pennod.
Mae Paul yn cychwyn ei lythyr gydag anogaeth wresog ar gyfer Timotheus,
sydd efallai yn dal yn Effesus.
Mae Paul yn dweud bod rhai brodyr yn Asia wedi cefnu arno,
ond mae’n canmol Onesifforws a wnaeth chwilio’n ddewr am Paul er mwyn ei helpu.
Ym mhennod 2, mae Paul yn dweud wrth Timotheus
am ddysgu’r dynion ffyddlon eraill am yr holl bethau y mae wedi eu dysgu gan Paul.
Mae’r apostol yn annog Timotheus i wrthod dadlau ffôl,
sy’n “gwneud dim ond achosi gwrthdaro.”
Oeddet ti’n gwybod?
Ail lythyr Paul at Timotheus ydy’r olaf o 14 llyfr
y cafodd yr apostol ei ysbrydoli i’w hysgrifennu dros gyfnod o tua 15 mlynedd.
Ysgrifennodd o leiaf bump o’r llyfrau hynny tra oedd o dan arestiad yn Rhufain.
A chafodd Hebreaid ei ysgrifennu naill ai ychydig cyn,
neu ychydig ar ôl iddo gael ei ryddhau.
Ym mhennod 3, mae Paul yn rhagddweud sut bydd pobl yn ymddwyn yn nyddiau olaf byd Satan.
Wedyn mae Paul yn atgoffa Timotheus
mai “Duw sydd wedi ysbrydoli’r” ysgrythurau,
a thrwyddyn nhw y mae’n gallu deall ‘sut i gael ei achub.’
Hefyd mae Paul yn dweud y bydd rhai sydd eisiau byw bywyd duwiol
yn unol â Iesu Grist yn cael eu herlid.
Ym mhennod 4, mae Paul yn rhybuddio Timotheus
fod pregethu’r gair yn fater o frys,
oherwydd bod yr amser yn dod pan fydd rhai yn gwrthod y gwir
ac yn dewis gwrando ar straeon ffals yn unig.
Wedyn mae Paul yn awgrymu bod ei farwolaeth yn agosáu,
felly mae’n gofyn i Timotheus ddod i’w weld yn fuan,
ac i ddod â Marc gydag ef.
Wrth iti ddarllen ail lythyr Paul at Timotheus,
sylwa ar sut mae Paul, er ei fod yn wynebu marwolaeth,
yn poeni’n bennaf am bobl eraill, yn enwedig Timotheus annwyl;
ar sut bydd pawb sydd eisiau byw bywyd duwiol yn cael eu herlid;
ac ar sut y dylen ninnau, fel Paul a Timotheus,
ddal ati i rannu’r newyddion da a chanolbwyntio ar Deyrnas Dduw.
-