JW subtitle extractor

Cyflwyniad i Titus

Video Other languages Share text Share link Show times

Cyflwyniad i Titus
Cafodd llythyr ysbrydoledig yr Apostol Paul at Titus ei ysgrifennu tua 61 i 64 OG.
Efallai y gwnaeth Paul ei ysgrifennu ym Macedonia rywbryd ar ôl ei garchariad cyntaf yn Rhufain.
Mae’n ymddangos bod Paul wedi gwasanaethu yn Creta gyda Titus ar ôl iddo gael ei ryddhau.
Ar ôl i’r apostol adael, gwnaeth Titus aros.
Roedd gan Titus aseiniad anodd yn Creta.
Ar y cyfan, roedd gan y bobl yno enw drwg am fod yn anonest, yn ddiog, ac yn farus.
Roedd yr arferion drwg hyn wedi dylanwadu ar rai yn y gynulleidfa.
Felly yn ei lythyr, gofynnodd Paul i Titus gywiro’r problemau yng nghynulleidfaoedd Creta
a phenodi dynion cymwys i wasanaethu fel henuriaid.
Mae gan y llythyr at Titus dair pennod.
Mae pennod 1 yn disgrifio’r cymwysterau ysbrydol ar gyfer henuriaid y gynulleidfa.
Wedyn, mae Paul yn dweud wrth Titus am geryddu’n llym y rhai sy’n ceisio camarwain eu brodyr.
Mae’r rhai twyllodrus yn cynnwys dynion sy’n afreolus, sy’n siarad nonsens, ac sy’n mynnu bod enwaediad yn hanfodol bwysig.
Ym mhennod 2, mae Paul yn disgrifio’r rhinweddau da y dylai dynion a merched Cristnogol eu dangos, gan gynnwys caethweision.
Mae Paul yn annog Titus drwy ddweud wrtho am siarad ac ymddwyn gydag awdurdod
gan ychwanegu: “Paid gadael i neb dy ddiystyru di.”
Oeddet ti’n gwybod?
Mae hanes Titus fel arolygwr Cristnogol yn dangos ei bod hi’n bosib ei drystio gydag aseiniadau anodd eu trin.
Roedd yn ddewr, yn gadarn, yn gariadus, ac yn amlwg yn drefnus.
Roedd Paul yn hyderus y byddai Titus yn gwneud gwaith da yn Creta.
Ym mhennod 3, mae Paul yn dweud wrth Titus am atgoffa’r Cristnogion yn Creta i fod yn ufudd i’r awdurdodau seciwlar,
i fod yn rhesymol, a pheidio â dadlau, ac i fod yn addfwyn tuag at bawb.
Yn olaf, mae Paul yn cynghori Titus i osgoi dadleuon ffôl dros Gyfraith Moses, ac i wrthod unrhyw un sy’n mynnu creu rhaniadau.
Wrth iti ddarllen y llythyr at Titus, sylwa ar sut y dylai arolygwyr Cristnogol fod yn ddewr wrth ddelio gyda phroblemau yn y gynulleidfa,
ar sut gall ysbryd Duw ddenu pobl o bob cefndir a’u helpu i efelychu personoliaeth Crist,
ac ar sut y dylai dinasyddion Teyrnas Dduw wrthod yr arferion drwg sy’n nodweddu byd Satan.