JW subtitle extractor

Cyflwyniad i Philemon

Video Other languages Share text Share link Show times

Cyflwyniad i Philemon.
Ysgrifennodd Paul y llythyr hwn at ei ffrind a’i frawd ysbrydol Philemon yn bennaf,
a oedd yn byw yn ninas Colosae yn Asia Leiaf.
Ysgrifennodd o Rufain tua 60 neu 61 OG,
yn sôn am was Philemon, Onesimws, sydd wedi dianc.
Rhywsut neu gilydd, daeth Onesimws i adnabod Paul tra oedd yn Rhufain,
ac yn fuan wedyn, daeth yn Gristion.
Mae gan y llythyr hwn at Philemon 25 o adnodau yn unig.
Mae Paul yn agor drwy gyfarch Philemon a’r gynulleidfa sy’n cyfarfod yn ei dŷ,
gan gynnwys Apffia ac Archipus.
Mae Paul yn dweud wrth Philemon fod Onesimws,
a ystyriwyd yn ddi-werth ar un adeg,
bellach yn frawd ysbrydol gwerthfawr,
nes bod Paul eisiau i Onesimws aros yn Rhufain am gyfnod.
Dydy Paul ddim yn mynd y tu hwnt i’w awdurdod
drwy fynnu bod Onesimws yn aros heb ganiatâd ei feistr.
Felly mae Paul yn anfon Onesimws yn ôl i Philemon,
sy’n byw mwy na 1400 cilomedr i ffwrdd.
Ar sail cariad Cristnogol a chyfeillgarwch
mae Paul yn ymbil ar Philemon i dderbyn Onesimws,
nid fel gwas a redodd i ffwrdd, ond fel brawd annwyl.
Ni wnaeth Paul ddefnyddio ysgrifennydd ar gyfer y llythyr hwn,
sy’n anghyffredin iddo ef.
Oeddet ti’n gwybod?
Llythyr Paul at Philemon oedd ei unig lythyr ysbrydoledig
a gafodd ei ysgrifennu yn bennaf at unigolyn yn bersonol ac ar fater personol.
Gallwn ystyried y llythyr hwn fel cychwyn newydd i Onesimws,
gwas sydd bellach yn frawd.
Mae Paul yn mynegi hyder bod Philemon am wneud mwy nac sydd yn cael ei ofyn ganddo.
Wrth iti ddarllen y llythyr at Philemon,
sylwa ar sut y gallen ni fynegi hyder yn ein brodyr,
ar sut y dangosodd Paul ostyngeiddrwydd
drwy beidio mynd y tu hwnt i’w awdurdod,
ac ar sut gwnaeth dynnu sylw at garedigrwydd a maddeuant,
rinweddau hanfodol i bawb sydd eisiau etifeddu Teyrnas Dduw.