00:00:02
Cyflwyniad i Hebreaid.00:00:04
00:00:06
Ysgrifennodd Paul y llythyr hwn tua 61 OG,00:00:11
00:00:11
ychydig cyn neu ychydig ar ôl iddo gael ei ryddhau o’i arestiad tŷ yn Rhufain.00:00:16
00:00:16
Mae’r wybodaeth yn y llythyr yn dangos bod Paul wedi ysgrifennu at Gristnogion Hebreig yn Jwdea.00:00:23
00:00:24
Roedd llawer wedi bod yn Gristnogion am flynyddoedd,00:00:27
00:00:27
ond wedi llithro yn ôl yn ysbrydol, ac angen llaeth yn hytrach na bwyd solet.00:00:32
00:00:33
Gwnaeth hyn beryglu ei ffydd oherwydd ymosodiad gan arweinwyr crefyddol yr Iddewon a’u cefnogwyr.00:00:40
00:00:41
Efallai roedd y gwrthwynebwyr yn dadlau nad oedd gan y Cristnogion unrhyw beth gweledol i’w helpu nhw yn eu haddoliad.00:00:48
00:00:49
Roedd gan yr Iddewon deml odidog,00:00:52
00:00:52
offeiriadaeth,00:00:53
00:00:53
aberthau,00:00:55
00:00:55
cyfraith Moses,00:00:56
00:00:56
a hanes yn dyddio’n ôl i Abraham.00:00:59
00:01:00
Ysgrifennodd Paul at y Cristnogion Hebreig i gryfhau eu ffydd00:01:04
00:01:04
yn y drefn well y mae Duw wedi ei gosod yn y nef lle mae Iesu yn ganolog.00:01:09
00:01:09
Mae’r drefn hon yn gosod addoliad Cristnogol yn llawer uwch nag addoliad cenedl Israel.00:01:16
00:01:16
Efallai roedd llythyr Paul yn helpu Cristnogion Hebreig a oedd eisiau dilyn cyfraith Moses o hyd.00:01:22
00:01:23
Mae gan y llythyr at yr Hebreaid 13 o benodau.00:01:26
00:01:27
Mae penodau 1 i 3 yn gosod y thema ar gyfer Hebreaid00:01:32
00:01:32
drwy ddisgrifio safle uchel Iesu, mae o’n uwch na’r angylion a Moses.00:01:37
00:01:38
Ym mhenodau 4 i 10, gwelwn Iesu fel archoffeiriad yn y nefoedd,00:01:43
00:01:43
yn llawer uwch na’r archoffeiriaid Iddewig pechadurus yn y deml.00:01:48
00:01:48
Yn wahanol iddyn nhw mae Iesu yn berffaith heb bechod.00:01:52
00:01:53
Roedd rhaid i’r archoffeiriaid Iddewig gyflwyno aberthau bob dydd dros bechodau’r bobl.00:01:59
00:01:59
Roedden nhw’n aberthu anifeiliaid, a oedd o werth cyfyngedig.00:02:03
00:02:04
Aeth Crist i mewn i’r nefoedd ei hun,00:02:07
00:02:07
i gyflwyno i Dduw werth ei fywyd perffaith fel pridwerth unwaith ac am byth.00:02:13
00:02:13
Mae pridwerth Iesu yn gosod y sail ar gyfer cyfamod newydd, sy’n well na’r un gyda Moses yn eiriolwr.00:02:21
00:02:22
Oeddet ti’n gwybod?00:02:24
00:02:24
Yn Heb 9:8, 9, mae Paul yn dweud bod “y babell . . . yn ddarlun.”00:02:30
00:02:30
Roed Paul yn cyfeirio at y babell ddaearol, neu’r Tabernacl, a osododd Moses.00:02:36
00:02:37
Roedd y babell honna yn ganolog i addoliad y bobl,00:02:41
00:02:41
ond nid oedd aberthu anifeiliaid yn rhoi maddeuant llwyr dros bechodau.00:02:46
00:02:46
Roedd y babell go iawn “na chafodd ei gwneud gan bobl,”00:02:50
00:02:50
sef y drefn ar gyfer addoli Jehofa ar sail aberth pridwerthol Crist,00:02:55
00:02:55
yn rhoi’r cwbl sydd ei angen arnon ni er mwyn cael perthynas bersonol a thragwyddol â Duw.00:03:01
00:03:05
Ym mhennod 10 darllenwn am yr angen i ddilynwyr Crist gyfarfod yn aml er mwyn annog ei gilydd,00:03:11
00:03:11
yn enwedig wrth i’r diwedd agosáu.00:03:14
00:03:15
Mae pennod 11 yn ffocysu ar ffydd, gan rhoi esiamplau o ddynion a merched cyn Crist00:03:22
00:03:22
a oedd yn nerthol mewn gair a gweithred oherwydd eu ffydd.00:03:26
00:03:27
Ym mhennod 12, darllenwn fod y rhai dewr hynny yn ffurfio ‘tyrfa enfawr’ o dystion.00:03:33
00:03:35
Mae’r apostol wedyn yn cyfeirio at y tyst mwyaf oll, Iesu Grist, sef “awdur a pherffeithydd ffydd.”00:03:43
00:03:43
Wrth gwrs os oes gennyn ni ffydd fel Iesu Grist, mae’n rhaid i’n hymddygiad fod yn lân.00:03:49
00:03:49
Felly, i gloi, ym mhennod 13 mae Paul yn annog y Cristnogion:00:03:54
00:03:54
“Daliwch ati i garu’ch gilydd fel credinwyr.”00:03:57
00:03:57
‘Dylai priodas gael ei pharchu gan bawb.’00:04:00
00:04:00
a “Byddwch yn ufudd i’ch arweinwyr ysbrydol.”00:04:03
00:04:06
Wrth iti ddarllen Hebreaid,00:04:08
00:04:08
sylwa ar sut mae Paul yn dangos, mewn ffordd hyfryd, cymaint gwell ydy addoliad Cristnogol;00:04:14
00:04:14
ar sut gallen ni berffeithio ein ffydd, wrth inni ddisgwyl am ddiwedd byd Satan;00:04:19
00:04:19
ac ar sut mae Duw yn defnyddio Iesu, ein harchoffeiriad nefol a Brenin Teyrnas Dduw,00:04:25
00:04:25
i gael gwared ar bechod a marwolaeth am byth.00:04:28
Cyflwyniad i Hebreaid
-
Cyflwyniad i Hebreaid
Cyflwyniad i Hebreaid.
Ysgrifennodd Paul y llythyr hwn tua 61 OG,
ychydig cyn neu ychydig ar ôl iddo gael ei ryddhau o’i arestiad tŷ yn Rhufain.
Mae’r wybodaeth yn y llythyr yn dangos bod Paul wedi ysgrifennu at Gristnogion Hebreig yn Jwdea.
Roedd llawer wedi bod yn Gristnogion am flynyddoedd,
ond wedi llithro yn ôl yn ysbrydol, ac angen llaeth yn hytrach na bwyd solet.
Gwnaeth hyn beryglu ei ffydd oherwydd ymosodiad gan arweinwyr crefyddol yr Iddewon a’u cefnogwyr.
Efallai roedd y gwrthwynebwyr yn dadlau nad oedd gan y Cristnogion unrhyw beth gweledol i’w helpu nhw yn eu haddoliad.
Roedd gan yr Iddewon deml odidog,
offeiriadaeth,
aberthau,
cyfraith Moses,
a hanes yn dyddio’n ôl i Abraham.
Ysgrifennodd Paul at y Cristnogion Hebreig i gryfhau eu ffydd
yn y drefn well y mae Duw wedi ei gosod yn y nef lle mae Iesu yn ganolog.
Mae’r drefn hon yn gosod addoliad Cristnogol yn llawer uwch nag addoliad cenedl Israel.
Efallai roedd llythyr Paul yn helpu Cristnogion Hebreig a oedd eisiau dilyn cyfraith Moses o hyd.
Mae gan y llythyr at yr Hebreaid 13 o benodau.
Mae penodau 1 i 3 yn gosod y thema ar gyfer Hebreaid
drwy ddisgrifio safle uchel Iesu, mae o’n uwch na’r angylion a Moses.
Ym mhenodau 4 i 10, gwelwn Iesu fel archoffeiriad yn y nefoedd,
yn llawer uwch na’r archoffeiriaid Iddewig pechadurus yn y deml.
Yn wahanol iddyn nhw mae Iesu yn berffaith heb bechod.
Roedd rhaid i’r archoffeiriaid Iddewig gyflwyno aberthau bob dydd dros bechodau’r bobl.
Roedden nhw’n aberthu anifeiliaid, a oedd o werth cyfyngedig.
Aeth Crist i mewn i’r nefoedd ei hun,
i gyflwyno i Dduw werth ei fywyd perffaith fel pridwerth unwaith ac am byth.
Mae pridwerth Iesu yn gosod y sail ar gyfer cyfamod newydd, sy’n well na’r un gyda Moses yn eiriolwr.
Oeddet ti’n gwybod?
Yn Heb 9:8, 9, mae Paul yn dweud bod “y babell . . . yn ddarlun.”
Roed Paul yn cyfeirio at y babell ddaearol, neu’r Tabernacl, a osododd Moses.
Roedd y babell honna yn ganolog i addoliad y bobl,
ond nid oedd aberthu anifeiliaid yn rhoi maddeuant llwyr dros bechodau.
Roedd y babell go iawn “na chafodd ei gwneud gan bobl,”
sef y drefn ar gyfer addoli Jehofa ar sail aberth pridwerthol Crist,
yn rhoi’r cwbl sydd ei angen arnon ni er mwyn cael perthynas bersonol a thragwyddol â Duw.
Ym mhennod 10 darllenwn am yr angen i ddilynwyr Crist gyfarfod yn aml er mwyn annog ei gilydd,
yn enwedig wrth i’r diwedd agosáu.
Mae pennod 11 yn ffocysu ar ffydd, gan rhoi esiamplau o ddynion a merched cyn Crist
a oedd yn nerthol mewn gair a gweithred oherwydd eu ffydd.
Ym mhennod 12, darllenwn fod y rhai dewr hynny yn ffurfio ‘tyrfa enfawr’ o dystion.
Mae’r apostol wedyn yn cyfeirio at y tyst mwyaf oll, Iesu Grist, sef “awdur a pherffeithydd ffydd.”
Wrth gwrs os oes gennyn ni ffydd fel Iesu Grist, mae’n rhaid i’n hymddygiad fod yn lân.
Felly, i gloi, ym mhennod 13 mae Paul yn annog y Cristnogion:
“Daliwch ati i garu’ch gilydd fel credinwyr.”
‘Dylai priodas gael ei pharchu gan bawb.’
a “Byddwch yn ufudd i’ch arweinwyr ysbrydol.”
Wrth iti ddarllen Hebreaid,
sylwa ar sut mae Paul yn dangos, mewn ffordd hyfryd, cymaint gwell ydy addoliad Cristnogol;
ar sut gallen ni berffeithio ein ffydd, wrth inni ddisgwyl am ddiwedd byd Satan;
ac ar sut mae Duw yn defnyddio Iesu, ein harchoffeiriad nefol a Brenin Teyrnas Dduw,
i gael gwared ar bechod a marwolaeth am byth.
-