00:00:02
Cyflwyniad i Iago.00:00:04
00:00:07
Mae ’na dystiolaeth gadarn sy’n dangos mai Iago, hanner brawd Iesu,00:00:12
00:00:12
a ysgrifennodd y llythyr ysbrydoledig hwn.00:00:15
00:00:15
Ysgrifennodd Iago’r llythyr cyn 62 OG.00:00:18
00:00:19
Roedd yn byw yn Jerwsalem bryd hynny.00:00:21
00:00:24
Mae’r llythyr yn pwysleisio’r angen i ddangos ffydd a dyfalbarhad yn ystod treialon,00:00:29
00:00:30
i osgoi pechodau sy’n arwain at golli ffafr Duw,00:00:33
00:00:34
ac i brofi ein ffydd drwy ein gweithredoedd.00:00:36
00:00:38
Fel Iesu, defnyddiodd Iago lawer o eglurebau syml a phwerus yn defnyddio pethau cyffredin—00:00:45
00:00:46
tonnau’r môr,00:00:47
00:00:48
blodau a choed,00:00:50
00:00:50
dyn yn edrych arno’i hun mewn drych,00:00:53
00:00:53
a chyfoeth materol sy’n pydru.00:00:55
00:00:57
Mae gan lythyr Iago bum pennod.00:01:00
00:01:01
Mae pennod 1 yn ein hatgoffa i barhau i “ofyn i Dduw” am ddoethineb,00:01:06
00:01:06
a hynny mewn ffydd.00:01:07
00:01:07
A bod “y rhai sy’n amau yn debyg i donnau’r môr00:01:10
00:01:10
yn cael eu taflu a’u chwipio i bobman gan y gwynt.”00:01:14
00:01:14
Mae pennod 2 yn cynnwys cyngor cryf00:01:17
00:01:17
ar gyfer y rhai sy’n trin pobl gyfoethog yn well na phobl dlawd,00:01:22
00:01:22
ac felly’n creu dosbarthiadau ac yn torri’r “gyfraith frenhinol” i garu’n cymydog.00:01:27
00:01:28
Oeddet ti’n gwybod?00:01:29
00:01:29
Mae Iago yn cyfeirio’n aml at y Bregeth ar y Mynydd.00:01:33
00:01:33
Er enghraifft, mae’n dweud ein bod ni’n gallu bod yn llawen wrth ddioddef erledigaeth;00:01:38
00:01:38
bod rhaid inni wneud ewyllys Duw, yn hytrach na’i glywed yn unig;00:01:42
00:01:42
ac os ydyn ni eisiau i Dduw faddau i ni, mae’n rhaid i ninnau faddau i eraill.00:01:47
00:01:50
Ym mhennod 3, mae Iago yn cymharu gwahanol bethau00:01:53
00:01:53
er mwyn egluro’r angen inni reoli ein tafod.00:01:56
00:01:57
Mae hyn yn wir yn enwedig i athrawon Gair Duw.00:02:01
00:02:02
Mae Iago yn cymharu’r tafod00:02:04
00:02:04
â phethau fel ffrwyn ar geffyl,00:02:06
00:02:06
llyw ar long,00:02:08
00:02:08
tân,00:02:09
00:02:09
a ffynnon ddŵr.00:02:11
00:02:12
Mae pennod 4 yn esbonio00:02:14
00:02:14
bod ymddygiad drwg yn tarddu o chwantau cnawdol.00:02:18
00:02:19
Mae Iago hefyd yn dweud:00:02:21
00:02:22
“Mae unrhyw un sy’n dewis bod yn gyfaill i’r byd yn gwneud ei hun yn elyn i Dduw.”00:02:27
00:02:28
Ar y llaw arall,00:02:30
00:02:30
pan ydyn ni’n gwrthod y Diafol ac yn nesáu at Dduw,00:02:33
00:02:33
bydd yntau’n nesáu aton ninnau.00:02:36
00:02:37
Mae pennod 5 yn dweud wrthon ni00:02:39
00:02:39
y bydd y rhai cyfoethog a phwerus sy’n cam-drin eraill00:02:43
00:02:43
yn gorfod ateb i Jehofa.00:02:45
00:02:45
Hefyd, mae Iago yn pwysleisio pwysigrwydd amynedd.00:02:48
00:02:49
Fel y mae ffermwr yn aros yn amyneddgar am y glaw,00:02:53
00:02:53
mae’n rhaid i ninnau aros yn amyneddgar00:02:55
00:02:55
i Dduw gyflawni ei addewidion sy’n gysylltiedig â Christ.00:02:59
00:03:01
Yn y cyfamser,00:03:02
00:03:02
dylai unrhyw un sy’n sâl yn ysbrydol00:03:05
00:03:05
geisio help gan henuriaid y gynulleidfa.00:03:08
00:03:08
Mae eu ffordd gariadus o ddefnyddio Gair Duw,00:03:11
00:03:11
a gweddïo mewn ffydd, yn gallu helpu rhywun sâl i wella.00:03:15
00:03:17
Wrth iti ddarllen llythyr Iago,00:03:20
00:03:20
sylwa ar sut dylen ni beidio â rhoi bai ar Jehofa am ein treialon;00:03:24
00:03:24
ar sut dylen ni ymdrechu’n fawr i reoli ein tafod;00:03:27
00:03:27
ac ar sut dylen ni ddisgwyl yn amyneddgar am Deyrnas Dduw.00:03:32
Cyflwyniad i Iago
-
Cyflwyniad i Iago
Cyflwyniad i Iago.
Mae ’na dystiolaeth gadarn sy’n dangos mai Iago, hanner brawd Iesu,
a ysgrifennodd y llythyr ysbrydoledig hwn.
Ysgrifennodd Iago’r llythyr cyn 62 OG.
Roedd yn byw yn Jerwsalem bryd hynny.
Mae’r llythyr yn pwysleisio’r angen i ddangos ffydd a dyfalbarhad yn ystod treialon,
i osgoi pechodau sy’n arwain at golli ffafr Duw,
ac i brofi ein ffydd drwy ein gweithredoedd.
Fel Iesu, defnyddiodd Iago lawer o eglurebau syml a phwerus yn defnyddio pethau cyffredin—
tonnau’r môr,
blodau a choed,
dyn yn edrych arno’i hun mewn drych,
a chyfoeth materol sy’n pydru.
Mae gan lythyr Iago bum pennod.
Mae pennod 1 yn ein hatgoffa i barhau i “ofyn i Dduw” am ddoethineb,
a hynny mewn ffydd.
A bod “y rhai sy’n amau yn debyg i donnau’r môr
yn cael eu taflu a’u chwipio i bobman gan y gwynt.”
Mae pennod 2 yn cynnwys cyngor cryf
ar gyfer y rhai sy’n trin pobl gyfoethog yn well na phobl dlawd,
ac felly’n creu dosbarthiadau ac yn torri’r “gyfraith frenhinol” i garu’n cymydog.
Oeddet ti’n gwybod?
Mae Iago yn cyfeirio’n aml at y Bregeth ar y Mynydd.
Er enghraifft, mae’n dweud ein bod ni’n gallu bod yn llawen wrth ddioddef erledigaeth;
bod rhaid inni wneud ewyllys Duw, yn hytrach na’i glywed yn unig;
ac os ydyn ni eisiau i Dduw faddau i ni, mae’n rhaid i ninnau faddau i eraill.
Ym mhennod 3, mae Iago yn cymharu gwahanol bethau
er mwyn egluro’r angen inni reoli ein tafod.
Mae hyn yn wir yn enwedig i athrawon Gair Duw.
Mae Iago yn cymharu’r tafod
â phethau fel ffrwyn ar geffyl,
llyw ar long,
tân,
a ffynnon ddŵr.
Mae pennod 4 yn esbonio
bod ymddygiad drwg yn tarddu o chwantau cnawdol.
Mae Iago hefyd yn dweud:
“Mae unrhyw un sy’n dewis bod yn gyfaill i’r byd yn gwneud ei hun yn elyn i Dduw.”
Ar y llaw arall,
pan ydyn ni’n gwrthod y Diafol ac yn nesáu at Dduw,
bydd yntau’n nesáu aton ninnau.
Mae pennod 5 yn dweud wrthon ni
y bydd y rhai cyfoethog a phwerus sy’n cam-drin eraill
yn gorfod ateb i Jehofa.
Hefyd, mae Iago yn pwysleisio pwysigrwydd amynedd.
Fel y mae ffermwr yn aros yn amyneddgar am y glaw,
mae’n rhaid i ninnau aros yn amyneddgar
i Dduw gyflawni ei addewidion sy’n gysylltiedig â Christ.
Yn y cyfamser,
dylai unrhyw un sy’n sâl yn ysbrydol
geisio help gan henuriaid y gynulleidfa.
Mae eu ffordd gariadus o ddefnyddio Gair Duw,
a gweddïo mewn ffydd, yn gallu helpu rhywun sâl i wella.
Wrth iti ddarllen llythyr Iago,
sylwa ar sut dylen ni beidio â rhoi bai ar Jehofa am ein treialon;
ar sut dylen ni ymdrechu’n fawr i reoli ein tafod;
ac ar sut dylen ni ddisgwyl yn amyneddgar am Deyrnas Dduw.
-