00:00:02
Cyflwyniad i 1 Pedr.00:00:04
00:00:06
Mae’r apostol Pedr yn ei enwi ei hun fel ysgrifennwr ei ddau lythyr ysbrydoledig—1 ac 2 Pedr.00:00:14
00:00:14
Ysgrifennodd Pedr ei lythyr cyntaf ym Mabilon, tua 62 i 64 OG.00:00:21
00:00:21
Defnyddiodd Pedr Silfanus, a elwir hefyd Silas, fel ysgrifennydd.00:00:27
00:00:27
Mae’n debyg y Silfanus hwn oedd y Silas a dreuliodd amser yn gynharach gyda’r apostol Paul.00:00:33
00:00:33
Ysgrifennodd Pedr ei lythyr cyntaf at Gristnogion eneiniog yn Pontus,00:00:38
00:00:38
Galatia,00:00:39
00:00:39
Capadocia,00:00:41
00:00:41
Asia,00:00:42
00:00:42
a Bithynia.00:00:43
00:00:44
Roedd y Cristnogion yn yr ardaloedd hynny yn wynebu llawer o dreialon.00:00:49
00:00:50
Mae gan 1 Pedr bum pennod.00:00:53
00:00:54
Ym mhennod 1,00:00:56
00:00:56
mae Pedr yn atgoffa ei frodyr eneiniog eu bod nhw wedi00:00:59
00:00:59
eu ‘geni o’r newydd i obaith bywiol’ ar sail atgyfodiad Iesu Grist.00:01:04
00:01:04
Drwy aros yn ffyddlon,00:01:06
00:01:06
byddan nhw’n cael eu gwobrwyo ag etifeddiaeth yn y nefoedd na fydd yn diflannu.00:01:11
00:01:11
Felly, rhaid iddyn nhw fod yn barod i weithio’n galed i Jehofa,00:01:15
00:01:15
a’u gwarchod eu hunain rhag chwantau cnawdol.00:01:18
00:01:19
Ym mhennod 2,00:01:21
00:01:21
mae’r apostol yn galw dilynwyr eneiniog Crist yn “genedl sanctaidd”00:01:26
00:01:26
ac yn “offeiriadaeth frenhinol” sy’n gwneud pethau da dros eraill.00:01:30
00:01:32
Ym mhennod 3,00:01:33
00:01:33
’dyn ni’n darllen dylai gwraig ymostwng i’w gŵr,00:01:36
00:01:36
fel gwnaeth Sara i Abraham.00:01:38
00:01:40
Hefyd, dylai gŵr barchu ei wraig.00:01:44
00:01:46
Oeddet ti’n gwybod?00:01:48
00:01:48
Yn ei lythyr cyntaf, mae Pedr yn dyfynnu o leiaf chwe llyfr o’r Beibl:00:01:53
00:01:53
Genesis,00:01:54
00:01:54
Exodus,00:01:55
00:01:55
Lefiticus,00:01:57
00:01:57
y Salmau,00:01:58
00:01:58
Diarhebion,00:01:59
00:01:59
ac Eseia.00:02:01
00:02:01
Drwy ddyfynnu Gair Duw,00:02:03
00:02:03
roedd Pedr yn efelychu Iesu ac yn gosod esiampl dda i ninnau.00:02:08
00:02:09
Ym mhennod 4,00:02:10
00:02:10
mae’r apostol yn pwysleisio’r angen inni fyw yn ôl ewyllys Duw fel gwnaeth Crist,00:02:16
00:02:16
hyd yn oed os ydy hynny’n golygu dioddef treialon anodd.00:02:20
00:02:20
Mae hefyd yn dweud dylen ni fod yn effro i’r angen i weddïo.00:02:25
00:02:26
Ym mhennod 5,00:02:28
00:02:28
mae Pedr yn apelio at ei gyd-henuriaid i fugeilio praidd Duw mewn ffordd anhunanol a gostyngedig.00:02:35
00:02:35
Mae wedyn yn annog pawb i roi eu holl bryderon i Dduw00:02:39
00:02:39
achos mae o’n gofalu amdanon ni.00:02:42
00:02:43
Wrth iti ddarllen 1 Pedr,00:02:45
00:02:45
sylwa ar sut dylen ni fod yn barod i weithio’n galed i Jehofa,00:02:49
00:02:49
ar sut dylai gwŷr a gwragedd drin ei gilydd,00:02:52
00:02:52
ac ar sut dylen ni fod yn barod i ddioddef treialon00:02:55
00:02:55
wrth inni aros am i Deyrnas Dduw ddod.00:02:58
Cyflwyniad i 1 Pedr
-
Cyflwyniad i 1 Pedr
Cyflwyniad i 1 Pedr.
Mae’r apostol Pedr yn ei enwi ei hun fel ysgrifennwr ei ddau lythyr ysbrydoledig—1 ac 2 Pedr.
Ysgrifennodd Pedr ei lythyr cyntaf ym Mabilon, tua 62 i 64 OG.
Defnyddiodd Pedr Silfanus, a elwir hefyd Silas, fel ysgrifennydd.
Mae’n debyg y Silfanus hwn oedd y Silas a dreuliodd amser yn gynharach gyda’r apostol Paul.
Ysgrifennodd Pedr ei lythyr cyntaf at Gristnogion eneiniog yn Pontus,
Galatia,
Capadocia,
Asia,
a Bithynia.
Roedd y Cristnogion yn yr ardaloedd hynny yn wynebu llawer o dreialon.
Mae gan 1 Pedr bum pennod.
Ym mhennod 1,
mae Pedr yn atgoffa ei frodyr eneiniog eu bod nhw wedi
eu ‘geni o’r newydd i obaith bywiol’ ar sail atgyfodiad Iesu Grist.
Drwy aros yn ffyddlon,
byddan nhw’n cael eu gwobrwyo ag etifeddiaeth yn y nefoedd na fydd yn diflannu.
Felly, rhaid iddyn nhw fod yn barod i weithio’n galed i Jehofa,
a’u gwarchod eu hunain rhag chwantau cnawdol.
Ym mhennod 2,
mae’r apostol yn galw dilynwyr eneiniog Crist yn “genedl sanctaidd”
ac yn “offeiriadaeth frenhinol” sy’n gwneud pethau da dros eraill.
Ym mhennod 3,
’dyn ni’n darllen dylai gwraig ymostwng i’w gŵr,
fel gwnaeth Sara i Abraham.
Hefyd, dylai gŵr barchu ei wraig.
Oeddet ti’n gwybod?
Yn ei lythyr cyntaf, mae Pedr yn dyfynnu o leiaf chwe llyfr o’r Beibl:
Genesis,
Exodus,
Lefiticus,
y Salmau,
Diarhebion,
ac Eseia.
Drwy ddyfynnu Gair Duw,
roedd Pedr yn efelychu Iesu ac yn gosod esiampl dda i ninnau.
Ym mhennod 4,
mae’r apostol yn pwysleisio’r angen inni fyw yn ôl ewyllys Duw fel gwnaeth Crist,
hyd yn oed os ydy hynny’n golygu dioddef treialon anodd.
Mae hefyd yn dweud dylen ni fod yn effro i’r angen i weddïo.
Ym mhennod 5,
mae Pedr yn apelio at ei gyd-henuriaid i fugeilio praidd Duw mewn ffordd anhunanol a gostyngedig.
Mae wedyn yn annog pawb i roi eu holl bryderon i Dduw
achos mae o’n gofalu amdanon ni.
Wrth iti ddarllen 1 Pedr,
sylwa ar sut dylen ni fod yn barod i weithio’n galed i Jehofa,
ar sut dylai gwŷr a gwragedd drin ei gilydd,
ac ar sut dylen ni fod yn barod i ddioddef treialon
wrth inni aros am i Deyrnas Dduw ddod.
-