JW subtitle extractor

Cyflwyniad i 2 Pedr

Video Other languages Share text Share link Show times

Cyflwyniad i 2 Pedr.
Mae’r apostol Pedr yn ei enwi ei hun fel ysgrifennwr ei ddau lythyr ysbrydoledig—1 ac 2 Pedr.
Ysgrifennodd Pedr ei ail lythyr tua 64 OG, ychydig ar ôl ei lythyr cyntaf.
Ar y pryd efallai roedd yn dal ym Mabilon neu yn yr ardal honno.
Mae ail lythyr Pedr yn annog Cristnogion eneiniog i aros yn ffyddlon er mwyn derbyn eu gwobr yn y nef,
i’w gwarchod eu hunain rhag gau athrawon,
ac i dalu sylw i broffwydoliaethau Duw.
Mae gan 2 Pedr dair pennod.
Mae pennod 1 yn trafod gweddnewidiad Crist
a roddodd i Pedr, Iago, ac Ioan gipolwg ar ogoniant Crist fel Brenin Teyrnas Dduw.
Fe wnaeth y gweddnewidiad gadarnhau proffwydoliaethau Duw,
felly dylai dilynwyr Crist dalu sylw iddyn nhw “fel lamp sy’n goleuo rhywle tywyll.”
Ym mhennod 2, mae Pedr yn ein rhybuddio y bydd gau athrawon yn ymddangos ac yn dod â sectau dinistriol.
Byddai’r twyllwyr hynny a gododd yn y ganrif gyntaf
yn wynebu barn ddwyfol yn union fel y gwnaeth trigolion Sodom a Gomorra.
Oeddet ti’n gwybod?
Pan ysgrifennodd Pedr ei ail lythyr, roedd yn gwybod ei fod am farw yn fuan.
Ond yn hytrach na phoeni’n ormodol amdano’i hun,
fe wnaeth barhau i ddilyn gorchymyn cariadus Iesu “Gofala am fy nefaid.”
Mae pennod 3 yn disgrifio’r adeg pan fyddai Crist yn Frenin Teyrnas Dduw.
Ynglŷn â’r adeg honno, fe wnaeth Pedr ragddweud y bydd ’na watwarwyr
a fyddai’n diystyru’r ffaith fod Jehofa wedi dinistrio pobl ddrwg o’r blaen yn nyddiau Noa.
Wedyn mae Pedr yn sôn am addewid Duw
o ‘nefoedd newydd a daear newydd’ ffigurol lle bydd “cyfiawnder yn cartrefu.”
Yn y cyfamser, dylai pobl Dduw lynu wrth yr ysgrythurau a byw mewn ffordd sy’n plesio Duw.
Wrth iti ddarllen 2 Pedr, sylwa ar sut gall gweddnewidiad Crist gryfhau ein ffydd ym mhroffwydoliaethau’r Beibl,
ar sut mae’n rhaid i ni’n gwarchod ein hunain rhag gau athrawon,
ac ar sut dylen ni aros yn amyneddgar am y nefoedd newydd
sef Teyrnas Dduw a fydd yn rheoli dros gymdeithas ddaearol newydd o bobl dduwiol.