JW subtitle extractor

Cyflwyniad i 1 Ioan

Video Other languages Share text Share link Show times

Cyflwyniad i 1 Ioan.
Cyntaf Ioan yw’r hiraf o’r tri llythyr a ysgrifennwyd gan yr apostol Ioan.
Mae’n debyg fod Ioan yn Effesus neu’n agos i’r ddinas pan ysgrifennodd ei lythyrau tua 98 OG.
Hefyd, ysgrifennodd ei Efengyl tua’r un adeg.
Ni chyfeiriodd Ioan ei lythyr cyntaf at unigolyn,
ond ysgrifennodd at y Cristnogion i gyd.
Ei bwrpas oedd cryfhau ffydd ei gyd-Gristnogion yn yr hyn roedden nhw wedi ei ddysgu am Grist.
Mae’r llythyr yn trafod tair prif thema: yr anghrist, pechod, a chariad.
Mae gan 1 Ioan bum pennod.
Ym mhennod 1, mae Ioan yn dweud wrthyn ni mai “golau ydy Duw”
a dylai Cristnogion gerdded yn y golau.
I gerdded yn y golau
mae’n rhaid inni gydnabod ein bod ni’n bechaduriaid sydd angen maddeuant ar sail aberth Crist
a dalodd am ein pechodau.
Mae pennod 2 yn ein rhybuddio am anghristiau.
Ymysg pethau eraill maen nhw’n honni nad Iesu oedd y Crist ac ni ddaeth Mab Duw yn y cnawd.
Oeddet ti’n gwybod?
Mwy ’na thri deg o flynyddoedd ynghynt
fe ragfynegwyd y byddai gau athrawon yn dod â sectau dinistriol
a ‘cheisio denu dilynwyr iddyn nhw eu hunain.’
Dangosodd ysgrifau Ioan fod y gwrthgiliad hwn wedi cychwyn yn barod.
Ym mhennod 3, mae Ioan yn cyferbynnu plant Duw â phlant y Diafol.
Mae plant Duw yn caru ei gilydd.
Mae plant y Diafol, fel Cain, yn casáu eu brodyr.
Mae’r thema o gariad yn parhau ym mhennod 4.
Yma mae Ioan yn ein hatgoffa na fedrwn ni honni caru Duw os nad ydyn ni’n caru ein cyd-Gristnogion.
Ym mhennod 5, darllenwn:
“dyma yw caru Duw: bod inni gadw ei orchmynion.”
Hefyd, mae Ioan yn cadarnhau bod Duw yn gwrando ar ein holl weddïau pan fyddan nhw’n unol ag ewyllys Duw.
Wrth iti ddarllen 1 Ioan,
sylwa ar yr angen i wrthod gwrthgilwyr;
ar sut gallwn ni ein gwarchod ein hunain rhag pechu;
ac ar sut dylen ni feithrin cariad at bawb fydd yn byw gyda ni o dan Deyrnas Dduw.