00:00:02
Cyflwyniad i 2 Ioan.00:00:04
00:00:08
Ysgrifennodd Ioan ei ail lythyr ynghyd â’i ddau lythyr arall tua 98 OG.00:00:14
00:00:14
Ar y pryd, mae’n debyg ei fod yn Effesus neu’n agos i’r ddinas.00:00:19
00:00:19
Ac efallai ei fod tua chan mlwydd oed.00:00:22
00:00:25
Mae Ioan yn cyfeirio ei lythyr at wraig etholedig a’i phlant.00:00:30
00:00:32
Mae rhai yn credu mai cynulleidfa Gristnogol oedd y wraig etholedig hon00:00:36
00:00:36
neu chwaer ysbrydol o’r enw Kyria sy’n golygu “gwraig” yn y Roeg.00:00:42
00:00:43
Mae llawer o bwyntiau yn ail lythyr Ioan yn crynhoi syniadau o’i lythyr cyntaf.00:00:48
00:00:49
Er enghraifft, mae Ioan yn sôn unwaith eto am yr angen i ddilynwyr Crist garu ei gilydd.00:00:55
00:00:57
Mae hefyd yn dweud: Ystyr cariad yw ein bod ni’n cerdded yn ôl gorchmynion Duw.00:01:03
00:01:04
Wedyn mae’r apostol yn rhybuddio bod llawer o dwyllwyr wedi mynd allan i’r byd.00:01:10
00:01:11
Mae’r anghristiau hyn yn honni nad ydy Crist ddim wedi dod yn y cnawd.00:01:16
00:01:19
Oeddet ti’n gwybod?00:01:21
00:01:21
Yn 2 Ioan 10, 11, mae Ioan yn ychwanegu at y cyfarwyddyd yn ei lythyr cyntaf00:01:27
00:01:27
ynglŷn ag unrhyw un sy’n mynd y tu hwnt i ddysgeidiaeth Crist.00:01:31
00:01:31
Mae’n dweud: “Peidiwch â’i dderbyn i’ch tŷ na’i gyfarch ef.”00:01:36
00:01:40
Mae cariad Ioan tuag at ei frodyr eneiniog yn amlwg yn ei ail lythyr.00:01:45
00:01:45
Mae eisiau iddyn nhw ‘dderbyn gwobr’ lawn,00:01:48
00:01:48
sy’n cynnwys y fraint o reoli gyda Christ yn ei Deyrnas.00:01:52
00:01:54
Wrth iti ddarllen 2 Ioan,00:01:56
00:01:56
sylwa ar sut dangosodd yr apostol ei gariad tuag at ei frodyr,00:02:01
00:02:01
ar sut roedd yn eu hannog i gerdded yn unol â gorchmynion Duw,00:02:05
00:02:05
ac ar sut bydd y rhai sy’n sefyll yn gadarn yn erbyn gwrthgilwyr00:02:09
00:02:09
yn cael y fraint o etifeddu Teyrnas Dduw.00:02:13
Cyflwyniad i 2 Ioan
-
Cyflwyniad i 2 Ioan
Cyflwyniad i 2 Ioan.
Ysgrifennodd Ioan ei ail lythyr ynghyd â’i ddau lythyr arall tua 98 OG.
Ar y pryd, mae’n debyg ei fod yn Effesus neu’n agos i’r ddinas.
Ac efallai ei fod tua chan mlwydd oed.
Mae Ioan yn cyfeirio ei lythyr at wraig etholedig a’i phlant.
Mae rhai yn credu mai cynulleidfa Gristnogol oedd y wraig etholedig hon
neu chwaer ysbrydol o’r enw Kyria sy’n golygu “gwraig” yn y Roeg.
Mae llawer o bwyntiau yn ail lythyr Ioan yn crynhoi syniadau o’i lythyr cyntaf.
Er enghraifft, mae Ioan yn sôn unwaith eto am yr angen i ddilynwyr Crist garu ei gilydd.
Mae hefyd yn dweud: Ystyr cariad yw ein bod ni’n cerdded yn ôl gorchmynion Duw.
Wedyn mae’r apostol yn rhybuddio bod llawer o dwyllwyr wedi mynd allan i’r byd.
Mae’r anghristiau hyn yn honni nad ydy Crist ddim wedi dod yn y cnawd.
Oeddet ti’n gwybod?
Yn 2 Ioan 10, 11, mae Ioan yn ychwanegu at y cyfarwyddyd yn ei lythyr cyntaf
ynglŷn ag unrhyw un sy’n mynd y tu hwnt i ddysgeidiaeth Crist.
Mae’n dweud: “Peidiwch â’i dderbyn i’ch tŷ na’i gyfarch ef.”
Mae cariad Ioan tuag at ei frodyr eneiniog yn amlwg yn ei ail lythyr.
Mae eisiau iddyn nhw ‘dderbyn gwobr’ lawn,
sy’n cynnwys y fraint o reoli gyda Christ yn ei Deyrnas.
Wrth iti ddarllen 2 Ioan,
sylwa ar sut dangosodd yr apostol ei gariad tuag at ei frodyr,
ar sut roedd yn eu hannog i gerdded yn unol â gorchmynion Duw,
ac ar sut bydd y rhai sy’n sefyll yn gadarn yn erbyn gwrthgilwyr
yn cael y fraint o etifeddu Teyrnas Dduw.
-