JW subtitle extractor

Cyflwyniad i Jwdas

Video Other languages Share text Share link Show times

Cyflwyniad i Jwdas.
Mae’n amlwg mai’r Jwdas a ysgrifennodd y llythyr ysbrydoledig hwn
oedd yr un Jwdas a oedd yn hanner brawd i Iesu Grist.
Ysgrifennodd Jwdas ei lythyr tua 65 OG, o’i famwlad Iddewig mae’n debyg.
Ar y pryd, roedd sefyllfa ddifrifol wedi datblygu:
roedd dynion anifeilaidd ac anfoesol wedi sleifio i mewn i’r gynulleidfa.
Felly wnaeth Jwdas bwysleisio’r angen i Gristnogion frwydro “o blaid y ffydd.”
Mae gan Jwdas 25 o adnodau.
Ym mhennod 5, mae Jwdas yn ein hatgoffa fod Jehofa wedi achub ei bobl o’r Aifft,
ond yn nes ymlaen wedi dinistrio rhai o’r Israeliaid nad oedden nhw’n dangos ffydd.
Yn yr un modd, mae adnod 7 yn dangos bod “Sodom a Gomorra, a’r dinasoedd o’u cwmpas”
yn esiampl i’n rhybuddio ni gan eu bod nhw wedi cael “eu cosbi yn y tân tragwyddol.”
Mae adnodau 12 ac 13 yn defnyddio eglurebau cryfion
i ddisgrifio’r bobl ddrwg sy’n sleifio mewn i’r gynulleidfa Gristnogol.
Maen nhw fel “creigiau peryglus yn y môr,”
‘cymylau heb ddŵr yn cael eu chwythu ymaith gan wyntoedd,’
“coed heb ffrwyth” sydd wedi eu diwreiddio,
ac “fel tonnau gwyllt y môr, yn corddi ewyn.”
Oeddet ti’n gwybod?
Mae ’na wybodaeth yn llythyr Jwdas sydd ddim ar gael unman arall yn y Beibl.
Jwdas yn unig sy’n sôn am y ddadl rhwng Michael yr Archangel a’r Diafol dros gorff Moses.
Jwdas ydy’r unig un sy’n sôn am Enoch yn proffwydo y byddai Duw,
gan ddefnyddio miloedd ar filoedd o angylion, yn barnu pobl ddrwg.
Mae Jwdas yn cloi ei lythyr gan annog ei frodyr i’w cadw eu hunain “yng nghariad Duw,”
i barhau i ddangos trugaredd at y rhai sydd gydag amheuon,
a’u hachub nhw drwy eu cipio nhw allan o’r tân.
Wrth iti ddarllen llythyr Jwdas,
sylwa ar sut mae’n cyfeirio’n aml at farnedigaethau Duw,
myfyria ar ei eglurebau pwerus,
a sylwa ar sut roedd yn pryderu dros lendid
ac ysbrydolrwydd y rhai sy’n gobeithio etifeddu Teyrnas Dduw.