JW subtitle extractor

Cyflwyniad i Datguddiad

Video Other languages Share text Share link Show times

Cyflwyniad i lyfr Datguddiad.
Cafodd Datguddiad ei ysgrifennu gan yr apostol Ioan tua 96 OG tra oedd yn alltud ar ynys Patmos.
Mae ’na gysylltiad cryf rhwng llyfr Datguddiad a llyfr cyntaf y Beibl, Genesis.
Mae Genesis yn sôn am sut cafodd Paradwys ei cholli,
mae Datguddiad yn dangos sut caiff Paradwys ei hadfer.
Mae gan lyfr Datguddiad 22 o benodau, sy’n cynnwys 16 o weledigaethau.
Ym mhenodau 1 i 3, mae Ioan yn cael ei orchymyn i ysgrifennu negeseuon at y saith cynulleidfa
sydd yn Effesus, Smyrna, Pergamus, Thyatira, Sardis, Philadelffia, a Laodicea.
Ym mhenodau 4 a 5, mae Ioan yn gweld gweledigaeth o Jehofa ar ei orsedd.
Mae Duw yn rhoi sgrôl wedi ei selio â saith sêl i’r oen, Crist wedi ei ogoneddu yn y nef.
Ym mhennod 6, mae Iesu yn agor chwech o’r seliau.
Wrth iddo agor y pedwar sêl gyntaf, dyma bedwar marchog yn cychwyn ar eu taith.
Mae marchogaeth y tri olaf yn dod â rhyfel, newyn, a marwolaeth.
Ym mhennod 7, mae Ioan yn gweld pedwar angel yn dal y pedwar gwynt dinistriol yn ôl
nes bod pob un o Israel ysbrydol wedi ei selio.
Mae’r apostol hefyd yn gweld tyrfa ddi-rif a rhyngwladol sydd wedi goroesi’r gorthrymder mawr.
Oeddet ti’n gwybod?
Yn Genesis 3:15, rhagfynegodd Duw y byddai had gwraig symbolaidd
yn sathru pen y sarff a berswadiodd Adda ac Efa i wrthryfela yn erbyn Duw.
Mae Datguddiad yn datgelu mai Satan y Diafol oedd yr “hen sarff” honno,
a ddefnyddiodd neidr i annog y gwrthryfel yn Eden.
Daeth yn amlwg mai prif ran Had y wraig symbolaidd oedd y Brenin Meseianaidd Iesu Grist.
Rhagfynegwyd y byddai eraill yn rheoli gydag ef y nef.
Mae Datguddiad yn dweud y bydd ganddo 144,000 o gyd-reolwyr.
Ym mhenodau 8 a 9, mae’r oen yn agor y seithfed sêl.
Mae Ioan yn gweld saith angel â saith utgorn.
Mae sŵn yr utgyrn yn cyhoeddi barn Duw ar y ddynoliaeth.
Ym mhenodau 10 ac 11,
mae angel cryf yn rhoi sgrôl fechan i Ioan ac yn dweud wrtho am fwyta’r sgrôl.
Yna mae Ioan yn cael ei orchymyn i fesur cysegr y deml,
ar ôl hynny mae’n gweld beth sy’n digwydd i ddau dyst Duw.
Wedyn mae’r seithfed angel yn canu ei utgorn, ac mae llais uchel yn cyhoeddi:
“Mae teyrnas y byd wedi dod yn deyrnas ein Harglwydd a’i Feseia.”
Ym mhennod 12, mae Ioan yn gweld genedigaeth mab sy’n cael ei gipio i ffwrdd i Dduw a’i orsedd.
Mae hefyd yn gweld Satan a’i angylion yn cael eu bwrw i’r ddaear.
Yna ym mhennod 13 mae Ioan yn gweld bwystfilod arswydus sy’n arglwyddiaethu dros y byd.
Mae pennod 14 yn dangos yr Oen yn sefyll ar Fynydd Seion gyda’r 144,000.
Ym mhenodau 15 ac 16,
mae saith angel yn tywallt digofaint Duw ar y ddaear gan ddefnyddio saith powlen aur.
Dysgwn fod rhyfel mawr Duw yn erbyn y cenhedloedd
am gael ei frwydro yn y lle symbolaidd a elwir Armagedon.
Mae penodau 17 ac 18 yn disgrifio putain feddw a elwir Babilon Fawr
sydd yn eistedd ar gefn bwystfil ysgarlad.
Ond mae’r bwystfil, a’i ddeg corn, yn ymosod ar y butain ac yn ei distrywio hi.
Ym mhennod 19, mae Ioan yn gweld Iesu a’i fyddinoedd nefol yn dinistrio’r drygionus.
Mae’r tair gweledigaeth olaf, ym mhenodau 20 i 22,
yn disgrifio Satan yn cael ei daflu i’r pydew diwaelod,
Teyrnasiad Mil Blynyddoedd Crist, yr atgyfodiad i’r ddaear,
a dinistr tragwyddol pobl sy’n gwrthryfela ynghyd ag angylion drwg.
Mae Ioan hefyd yn gweld Jerwsalem newydd ogoneddus
ac “afon o ddŵr bywiol . . . yn llifo o orsedd Duw a’r Oen.”
Mae “coed y bywyd” yn tyfu ar lannau’r afon.
Wrth iti ddarllen llyfr Datguddiad,
sylwa ar sut mae gweledigaethau proffwydol yn disgrifio cyflawniad addewid Duw yn Genesis 3:15;
ar sut bydd Duw, drwy gyfrwng Crist, yn cael gwared ar ddrygioni yn llwyr;
ac ar sut bydd ewyllys Jehofa yn cael ei gyflawni ar y ddaear am byth fel y mae yn y nef, drwy gyfrwng Teyrnas Dduw.