JW subtitle extractor

Bihafio yn y Weinidogaeth

Video Other languages Share text Share link Show times

Felly, ti’n edrych ymlaen at fynd ar y gwaith!
Wyt ti’n meddwl dy fod ti’n barod?
Pwyll biau hi!
Cyn iti fynd yn y weinidogaeth, ’dyn ni angen trafod ychydig o bethau.
Yn gyntaf, rhaid inni ddysgu’r tair P.
Y tair P?
Ie!
Paratoi, popeth yn dwt, a pharch.
Yn gyntaf, paratoi.
Paratoi yw’r cam cyntaf i lwyddo yn y weinidogaeth.
Mae gan bob job ei dŵls.
A phan ’dyn ni’n sôn am dŵls i bregethu, gall edrych fel petai ’na ormod o ddewis.
Ond paid â phoeni!
Mae gennyn ni’r Bocs Tŵls Dysgu.
Mae cael hyd i’r tŵls iawn yn haws nac erioed!
Unwaith iti gael dy dŵls,
gwna’n siŵr dy fod ti’n ymarfer dy gyflwyniad cyn gadael y tŷ.
’Dyn ni ddim eisiau paratoi ar stepen y drws!
Rŵan dy fod ti wedi paratoi’n dda, y peth nesaf i’w drafod ydy:
Mae’r ffordd ’dyn ni’n edrych yn bwysig am ein bod ni’n cynrychioli Jehofa.
Wrth baratoi i fynd ar y gwaith,
’dyn ni angen gwneud yn siŵr bod ein ymddangosiad yn cyfleu’r neges iawn.
Mae Jehofa eisiau inni edrych yn dwt ac yn daclus.
Hynny ydy, ein bod ni’n edrych ac yn ogleuo’n lân;
bod ein dillad yn ffitio’n dda, (ond dim yn rhy dda!);
bod ein gwallt wedi ei gribo;
a bod ni ddim yn tynnu gormod o sylw aton ni’n hunain.
Edrych yn smart, ’ngwas i!
Rŵan mae’n amser i siarad am:
Mae ein ymddygiad yn y weinidogaeth yn ffordd arall y gallwn ni ddod â chlod i Jehofa.
Felly gwna’n siŵr dy fod ti’n bihafio,
drwy osgoi siarad neu chwerthin yn uchel,
chwarae o gwmpas, amharchu eiddo pobl, neu fusnesu.
Hefyd, dim bwyta wrth y drws.
Cofia, wrth fynd o ddrws i ddrws mae pobl yn ein gweld ni, ac mae ymddygiad da yn rhoi tystiolaeth dda.
Fydden ni byth eisiau rhoi rheswm i weld bai ar ein gweinidogaeth.
Ga’ i fynd ar y gwaith rŵan?
Cei!
Dw i’n meddwl dy fod ti’n barod.
Mae hi’n amser i roi’r tair P ar waith.
Helô! Dafydd ydw i.
Beth ydy’ch enw chi?
Helô Dafydd! Fy enw i ydy ...