JW subtitle extractor

Defnyddia Dy Amser yn Ddoeth

Video Other languages Share text Share link Show times

Wow, cŵl!
Mae’n sgleinio!
’Dych chi’ch dau wedi gwirioni efo fo!
Gelli di wneud pethau sydd yn lot o hwyl arno fo.
A phethau pwysig hefyd.
Ond cyn ichi gael defnyddio fo, mae’n rhaid inni osod ychydig o reolau.
Ych...rheolau!??
Ia blant, achos gall cael gormod o beth da, fod yn beth drwg.
Beth wyt ti’n feddwl?
Dywedodd un dyn doeth fod ’na amser penodol i bopeth.
Ond os ydych chi o hyd yn edrych i lawr ar eich dyfais, gallwch chi golli trac o amser...
...neu fethu pethau hyfryd sy’n digwydd o’ch cwmpas.
’Dw i a’ch mam am reoli faint o amser ’dach chi’n dreulio ar eich dyfais.
A chewch chi ’mond ei ddefnyddio pan ydyn ni o gwmpas.
Pum munud arall, Dafydd.
Ocê, Mam.
Cofiwch, mae amser yn rhodd gan Jehofa.
Dylen ni ei ddefnyddio’n ddoeth. Ti’n cytuno, cariad?
Cytuno’n llwyr.
Rŵan, gwenwch!