JW subtitle extractor

Caru Dy Gymydog

Video Other languages Share text Share link Show times

Pwy ’di hi?
Ydy hi’n mynd i’n ysgol ni?
[Chwerthin]
Bore da pawb.
Mae gennyn ni ddisgybl newydd.
Ei henw yw Priya,
o India.
Mae o ble?
Dim syniad ble mae hynny.
Felly,
dewch inni weithio mewn parau eto.
Pwy sy angen partner,
a’n gallu gweithio gyda Priya?
Hei Sara!
’Dyn ni’n tîm ie?
Umm, ie ocê.
Ocê, grêt!
Felly am y tudalen cyntaf,
o’n i’n meddwl gwneud hyn,
a wedyn hwnna.
Mae rhywun yn eistedd fan ’na.
Felly, beth wnaeth Iesu ddysgu inni
ynglŷn â bod yn gymydog da fel y Samariad?
Sara?
Dysgodd inni ddangos cariad at
bobl sydd angen help.
Priya!
Draw fama!
Hia!
Sara dwi.
Helo.
Dwi’n hoffi dy ddillad.
Ble gest ti o?
Gwnaeth mam wneud e.
Mae’n dod o ’ngwlad i.
Maen nhw’n galw fe’n sylwâr kameez.
Hon ydy fy hoff liw.
Be’ mae’n fel lle oeddet ti’n byw?